Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganolbwynt

ganolbwynt

Daeth aelwyd groesawgar Ceri yn ganolbwynt pwysig i'r offeiriaid llengar.

Daliodd y bywyd gwledig, gyda'i gysylltiad uniongyrchol a'r gwerthoedd Cymreig ac a pharhad yr iaith Gymraeg, yn ganolbwynt eu canu.

Edrychid ar y llys brenhinol yn ganolbwynt cymdeithas a llywodraeth ac yn noddfa grym a chlod.

Nid yn unig yr oedd heb ganolbwynt dinesig a grisialai ymdeimlad o genedligrwydd; yr oedd heb drefi o unrhyw faint.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Mi ddo i ar dy ôl di cyn bo hir.' Ac i'w wely yr aeth Merêd yn ddigon penisel gan adael Dilys yn ganolbwynt sylw'r cwmni.

Iesu'n ganolbwynt

A cherrig moel ydy waliau'r tū, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tū cyfan.

Anweledig fydd prif ganolbwynt y rhaglen olaf yn y gyfres Y Goeden Roc efo Owain Gwilym yn ei chyflwyno.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Penderfynwyd yn y diwedd adeiladu oriel newydd ger Llangefni a fyddai'n ganolbwynt ar gyfer bywyd diwylliannol yr ynys.

Yr oedd ef yn perthyn i benceirddiaid Tir Iarll, a safai ei fynachlog ar ochr orllewinol yr ardal honno, a oedd yn brif ganolbwynt bywyd llenyddol y sir.