Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganolbwyntio

ganolbwyntio

Cadw'r capten yng nghanol y cae a chadw Scott Quinnell i ganolbwyntio ar eu chwarae ymysg y blaenwyr.

Un feirniadaeth ohonynt y gellir o bosib ei gwneud yw eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar y newyddion 'da', ac i osgoi pethau fel hanes llysoedd lleol, ysgariadau, ac ati, a'u gadael i'r papur lleol traddodiadol, Saesneg ei iaith yn bennaf.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Yn wir, y record gyntaf imi ei phrynu oedd Megamix gan Technotronic (dechrau da te ba'?!), ac fe fyddai'r casgliad yn cynyddu'n wythnosol, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth y clybiau gan amlaf.

O'r holl blanhigion prin, 'rwyf am ganolbwyntio ar chwilio am aelodau un teulu'n unig am y tro, sef teulu'r tegeiriannau (Orchidaceae).

Trueni, fodd bynnag, bod sawl un wedi gor-ganolbwyntio ar ochr negyddol y ddadl.

Ceisia pob lloches gynnig gofod, offer, a gweithgareddau ar gyfer y plant, ond dengys ein profiad na elwir yn llawn ar y rheini heb weithwraig plant wedi ei chyflogi i ganolbwyntio'n neilltuol ar anghenion y plant, ochr yn ochr â rhai'r mamau.

Rydym fel Cymdeithas am ganolbwyntio ein ymdrechion ar ymgyrchu dros Ddeddf Iaith berthnasol i'r ganrif newydd - ac i'r Gymru ifanc ddemocrataidd newydd - a dyma fydd ein prif ymgyrch eleni ac fel ymateb i'r her hon rydym yn miniogi ein trefniadaeth ac yn cychwyn ar ymgyrch y prynhawn yma.

'Mae pwysau ar y dyfarnwr drwy'r amser - rhaid iddo ganolbwyntio am chwe awr y dydd.

Wrth i Stacey ganolbwyntio ar ei harholiadau lefel A daeth Rachel Price i fyw i Gwmderi ac 'roedd Stacey'n amheus iawn o'i pherthynas hi a Hywel.

Mae Kallis am ganolbwyntio ar y gemau cartre ac oddi cartre sydd gan Dde Affrica yn erbyn Awstralia.

Y gwir amdani ydi fod meddwl am ferched yn rhwystro dynion i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud - ac mae hynny'n wir bob amser!

Dylai arolygwyr gofnodi'r gymhariaeth gyda'r cyfartaledd cenedlaethol ond dylent hefyd ganolbwyntio'n arbennig ar asesu cyrhaeddiad y disgyblion ag AAA mewn perthynas â'u galluoedd.

Ceisiodd ganolbwyntio.

Yng Nghymru, er enrhaifft, fe all yr aelod Llafur Ewropeaidd, Joe Wilson ganolbwyntio'i ymgyrch ar y sedd ogleddol y bu'n ei chynrychioli ers degawd, ond fydd yna neb yn pleidleisio drosto ef yn bersonol y mis nesaf.

Trwy ganolbwyntio ar fframwaith a chynnwys cwricwlwm i blant o bump ymlaen mae cwestiwn digon naturiol wedi codi

Mae'n beth anodd iawn ei wneud gan fod eich ymennydd yn mynnu symud eich llygaid i ganolbwyntio ar ba wrthrych bynnag y ceisiwch edrych arno.

Mewn rhai achosion mae hyn wedi golygu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynglyn â chwmpas yr hyn a gynigir gan ein gwasanaeth ond mae hefyd wedi'n galluogi i ganolbwyntio'n fwy eglur ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar ein cwsmeriaid a sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth yn gyson ac yn rheolaidd bob amser.

Ond yr oedd yna duedd yn y dehongliad hwn i ganolbwyntio ar droseddau defodol y gallai dyn eu cyflawni'n ddifeddwl neu'n anfwriadol, gan anwybyddu'r troseddau moesol dyfnach a ddibynnai fwy ar ewyllys dyn.

Yn y gorffennol tueddwyd i ganolbwyntio ar y berthynas bosibl rhwng y prif ffynonellau hyn yn y Gymraeg a'r rhamantau Ffrangeg neu Eingl- Normaneg.

Pan oeddwn yn fyfyriwr treuliwn oriau meithion yn gwylio Morgannwg yn chwarae ar Faes Sain Helen, Abertawe, a chan mai batiwrwicedwr digon trwsgl oeddwn i y pryd hwnnw arferwn ganolbwyntio fy sylw ar arddull David Evans a'i gymharu â wicedwyr dawnus eraill.

Ond nos Sadwrn diwethaf yr oedd yn ddigon teg i rywun holi tybed na fyddai wedi bod yn well cadw Pwll y Gymanwlad a chael y tîm rygbi i ganolbwyntio ar nofio yn hytrach nai weld yn suddo i'r iselderau o gêm i gêm.

Mae gan Nia ddwy flynedd i gwblhau'r gwaith ac mae'n gobeithio cynhyrchu llyfr o luniau a gwybodaeth am Nansi Richards gan ganolbwyntio ar yr ochr gerddorol i'w gwaith.

Rydym fel Cymdeithas am ganolbwyntio ein ymdrechion ar ymgyrchu dros Ddeddf Iaith berthnasol i'r ganrif newydd - ac i'r Gymru ifanc ddemocrataidd newydd - a dyma fydd ein prif ymgyrch eleni.

Ar un olwg teimlem mai'r angen cyntaf oedd cael mudiad iaith arbennig yng Nghymru fel y gallai'r Blaid ganolbwyntio ar faterion gwleidyddol pur, ac yr oedd yn amlwg fod llawer o rai eraill yn meddwl yr un ffordd ar yr un pryd mewn amrywiol rannau o Gymru, ond heb fod mor feiddgar â ni yng Nghaergrawnt!