Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganolfan

ganolfan

Ers y cyfarfod hwnnw, nid oedd y Ganolfan Gynghori yn gorfod talu am yr ystafell, a gobeithid derbyn ad- daliad am y swm dalwyd eisoes gan fod Canolfannau Cynghori yn elusen gofrestredig.

Fe fyddai ambell i wraig yn ymddangos yn sydyn yn y ganolfan fwydo i famau heb ei phlant a honni eu bod wedi marw dros nos, er bod y babanod wedi bod yn derbyn bwyd ers rhai wythnosau.

Byddwn yn falch o helpu gyda'r rhan fwyaf o ymholiadau, ond cofiwch nad oes modd i ni fod yn wasanaeth cyfieithu na'n ganolfan gwybodaeth am yr iaith ar gyfer myfyrwyr yn gwneud ymchwil, oni bai bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar Gymdeithas yr Iaith neu ymgyrchu iaith, wrth gwrs.

Bydd y ganolfan yn wledd i lygaid y cyhoedd ond bydd hefyd yn ganolfan o bwys i ymchwil ac addysg wyddonol.

mae'r coleg yn cynnig amrwiaeth eang o gyrsiau ym mhob campws yng Nghastell-nedd a Phort Talbot ynghyd a Choleg Cwmtawe ym Mhontardawe ar Ganolfan Hyfforddiant Crefftau Adeiladu yn Llansamlet.

Gwnaed Ynot Benn yn aelod o Anrhydeddus Urdd y Llwynogod pan aeth y ganolfan ar dan ddwywaith nes bod rhaid atgyweirio ac ail-adeiladu go helaeth.

A blwyddyn yn ôl trefnwyd diwrnod yn y Ganolfan Gynadledda yn Llandudno iddyn nhw gael manylion am y cynllun.

Dyna pam, mae'n amlwg, nad oedd y capel yn ganolfan gymdeithasol i'r teulu.

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

Cafodd y ganolfan rodd o fwrdd tenis ac mae llawer o'r bechgyn yn chwarae arno trwy'r dydd ymhob tywydd!

Penderfynodd y Ganolfan Rheoli Afiechydon felly fod rhywbeth newydd yn peri diffyg yng nghyfundrefn imwn y cleifion hyn.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth Porth Amlwch yn ganolfan adeiladu llongau bwysig, a hwyliai llongau o Borthaethwy i bedwar ban byd.

Erbyn hyn y mae Glynllifon yn ganolfan ar gyfer cyrsiau llawn amser mewn amaethyddiaeth a cheir dau gwrs preswyl llawn amser.

Mae Slimbridge yn ganolfan adar-dþr gyfleus i chwi yn yd de, ond fy hoff lecyn yw Gwarchodfa Martin Mere yng Ngogledd Lloegr.

Mae'r elfennau eraill o fewn y broses cyhoeddi yn cael eu cyflawni naill ai gan y cwmni masnachol sydd wedi atgynhyrchu'r adnawdd neu'r ganolfan adnoddau sydd wedi comisiynu'r atygynhyrchu.

o eitem lO: Cytunwyd nad oedd y mesurau diogelwch ychwanegol yn yr adeilad ym Mlaenau Ffestiniog yn wir berthnasol i'r Ganolfan Gynghori.

Byddai'n syniad i Anna ddod ar hwnnw a pharatoi erthygl ar y ganolfan.

dadlennwyd manylion am y ganolfan addysg busnes a rheolaeth cyfrwng cymraeg pan lansiwyd cynllun strategol ar ei chyfer gan fenter a busnes yn aberystwyth.

Drwy Gynllun Adnoddau CBAC, bydd rhai adnoddau yn cyrraedd yr ysgolion yn ddi-dâl (drwy warant o'r Awdurdodau Addysg) a hefyd fe fydd yr un adnoddau ar werth gan lyfrwerthwyr (drwy ganolfan ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau) am yr un pris â'r fersiwn Saesneg.

Yn ogystal â chyrsiau preswyl eraill mae Glynllifon hefyd yn Ganolfan iaith a daw disgyblion ysgol yno o bob rhan o Wynedd am wythnos ar y tro i ddysgu Cymraeg ac i'w gloywi.

Daeth y clas yn Llanddewi Brefi'n ganolfan dysg a diwylliant yn ogystal â bod yn gartref i lawer o weithgarwch cenhadol.

'Mae un coleg wedi'i droi'n ganolfan weinyddol i'r Gwarchodwyr a'r llall yn ganolfan addysg i rai dethol a fydd yn do arall o Warchodwyr.' 'Ond beth am y colegau eraill?'

Cafwyd rhaglenni unigol gan gynnwys comedi oedd yn seiliedig ar brotest y beirdd yn erbyn BBC Radio Cymru, rhaglen ddogfen i nodi pen-blwydd y Tywysog Siarl yn 50, cystadleuaeth garolau genedlaethol a chyngerdd acwstig gan BBC Radio Cymru o'r Ganolfan Technoleg Amgen yng nghanolbarth Cymru.

Fydd yno'r un tenant, mi fydd y tŷ yn dŷ haf ac yn ganolfan i bysgotwyr a saethwyr.

A fydd Eglwys Annibynwyr y Foel yn barod i drefnu eisteddfod sydd yn gysylltiedig a'r Foel bellach ers canrif a mwy mewn safle newydd yn y ganolfan?

Cael car wedyn ar draws Delhi i ganolfan mudiad arall, AFPRO (Action for Food Production).

Gan fod dau 'Jones' yn y Ganolfan lechyd, cwbl naturiol i dafod yr ardalwyr oedd gwahaniaethu rhyngddynt trwy gyfeirio at y partner hyn fel Doctor Jones, a'r ifengach fel Doctor Tudor.

Trefnasant eu bywyd yn y cymoedd poblog ar lun a delw y bywyd gwledig a'r capel yn ganolfan iddo.

Gall y Stiwt fod yn ganolfan y ddrama a cherdd yn yr ochr hon o Sir Clwyd a phwy a wyr na ellir sefydlu cwmni bach proffesiynol o actorion yma a fyddai'n gwasanaethu'r gymdogaeth drwy'r ysgolion a'r neuaddau bach gwledig.

Ac sydd, erbyn heddiw, yn gartref i'r Ganolfan Athletau Dan-do Genedlaethol.

Cawsom gwpanaid o de a chyfle i ymweld a'r crochendy a'r ganolfan grefftau coed yn Sarn.

Tystiodd Nant Gwrtheyrn fod nifer o bobl wedi cofrestru ar gyrsiau yn y Ganolfan Iaith yn uniongyrchol o ganlyniad i'r gweithgarwch yn y Sioe.

Mae hen ganolfan seryddol ganol-oesol ddiddorol iawn wedi ei harbed yng nghanol y ddinas, a'r adfeilion wedi eu cofnodi'n fanwl a pharc digon teidi o'u cwmpas.

Nid oherwydd ei bod yn haws crafu'r pridd sydd eisoes wedi'i droi neu ei balu y dewisir lleoliad o'r fath ond oherwydd nad oes drywydd ar bridd felly ac na all gelyn sy'n dibynnu ar ei ffroen ddilyn trywydd o'r ganolfan i'r llecyn magu.

Cyrhaeddais Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) yn ddidrafferth ond ble roedd y Ganolfan Athletau Dan-do Genedlaethol?

Yn hytrach na mynd at y gwneuthurwr a thalu drwy'ch trwyn, gwell mynd i ganolfan datgymalu ceir gyda'r mesuriadau, a thalu llawer yn llai.

Roedd y doniau a welwyd yn y ganolfan nos Wener yn rhyfeddol.

Gwelsom yn barod fel yr oedd Llanddewi Brefi'n ganolfan bwysig oherwydd cysylltiad y lle â Dewi Sant.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Mr Peter Morgan, Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon, Ogwr, Mrs Ruby Pollock, Mr Vernon Evans a Mr Bill Harris, Abergwynfi.

Roedd Eira yn un o sefydlwyr y Ganolfan.

Felly beth am i'r mudiadau uchod ddod at ei gilydd gydag unrhyw un o garedigion yr eisteddfod i drefnu eisteddfod leol i ardal Llangadfan a'r Foel yn y ganolfan newydd y flwyddyn nesaf, ac efallai bod rhai yn ardal Llanerfyl yn awyddus i gynorthwyo i gario'r traddodiad yn ei flaen.

Fe aeth un stori ar led ym Mogadishu am griw teledu o'r Almaen a gyrhaeddodd ganolfan fwydo un prynhawn a dechrau gosod goleuadau ymhob man.

Mae dyfodol y ganolfan - ac felly hefyd swyddi'r rhai sy'n gweithio yno - o dan fygythiad o hyd ac fe fyddwn i'n argymell i unrhyw un sy'n chwylio am le i gynnal cwrs, neu hyd yn oed am wyliau gyda chriw o ffrindiau, i fentro i'r ganolfan hyfryd hon yn y gorllewin gwyllt.

Yn ôl wedyn i'r ganolfan ar gyfer y sesiwn ola' - sef senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Llongyfarchodd y Cadeirydd Dianne Bishton a Les Oldman o Ganolfan Gynghori Tywyn ar iddynt gwblhau a llwyddo yn y cwrs gohebol ar ddyledion.

Byddai'r capel yn ganolfan gymdeithasol brysur drwy'r wythnos y pryd hynny.

'Roedd yn ganolfan fywiog, liwgar ac ysgogol.

Yn Nhrelew mae'r Gymdeithas Dewi Sant, neu'r Asociación San Davíd mewn bodolaeth ac mae'r gymdeithas yma yn cadw ei neuadd, ac yn ganolfan i ddisgynyddion y Gwladfawyr a hefyd yn hybu'r Eisteddfodau.

Hysbyswyd yr aelodau fod Eira Jones wedi ymddeol o'r Ganolfan Gynghori fis Rhagfyr, a bod y Cadeirydd wedi anfon gair o werthfawrogiad y Ganolfan ati am ei dyfalbarhad am yr holl flynyddoedd.

Maen nodi bod y Ganolfan Gwybodaeth newydd bellach yn darparu mynediad i'r cyhoedd i BBC Cymru, fel y gall gwylwyr a gwrandawyr fynegi eu barn au pryderon yn uniongyrchol i'r BBC. Gellid gwneud mwy hyd yn oed i annog adborth, o bosibl drwy ehangu a hyrwyddo cyfleusterau arlein.

Mae'r diolch yn bennaf i ffrwyth misoedd o waith rhwng Adran Bolisi Bwrdd yr Iaith a Bill Hicks o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, meddai.

os derbynnid galwad yng Nghanolfan Dolgellau wedi amser cau, gellid trosglwyddo'r alwad ar ei hunion i ganolfan gynghori arall oedd ar agor yng Ngwynedd.

Y ganolfan yw'r unig un o'r fath yng Nghymru ac mae ar agor drwyr flwyddyn.

Aberhonddu oedd prif ganolfan yr arglwyddiaeth Normanaidd ac adeiladodd y Normaniaid gastell cryf yno.

'Roedd y Stiwt yn ganolfan lle y gallai ffrindiau daro i mewn am sgwrs, gem o ddraffts neu wyddbwyll; 'roedd yn rhoi cyfle i greu diddordebau ac yn lle i feithrin talent ar fwrdd draffts, gwyddbwyll a biliards.

bydd y ganolfan yn asesu'r galw, yn datblygu deunydd dysgu newydd, yn gweithio gyda darlithwyr a hyfforddwyr, yn sicrhau dulliau hyblyg o ddysgu ac yn hyrwyddo darpariaeth i gyd o fewn y fframwaith gydnabyddedig.

ychwanegodd na fydd pobl o angenrheidrwydd yn mynychu'r ganolfan i ddilyn cyrsiau.

Nid ar siawns y dewisir lleoliad y twll ac os bydd cae tro neu ardd yn cael ei thrin yn agos at ganolfan cwningod dyna'r lle y dewis y fam guddio'i hepil.

Mae'r coleg yn cynnig amrwiaeth eang o gyrsiau ym mhob campws yng Nghastell-nedd a Phort Talbot ynghyd a Choleg Cwmtawe ym Mhontardawe a'r Ganolfan Hyfforddiant Crefftau Adeiladu yn Llansamlet.

Y ganolfan yw'r unig un o'r fath yng Nghymru ac mae ar agor drwy'r flwyddyn.

Cyn y gallai'r Blaid fod yn rym yng Nghymru ac ennill iddi'i hun yr hawl i lefaru dros Gymru gyfan, fe ymresymid, byddai'n rhaid iddi ennill yr ardaloedd di-Gymraeg, a golygai hynny symud prif ganolfan ei threfniadaeth yno.

Mi glywais i fod o'n ddigartref." Ar hyn o bryd mae Densil John yn aelod o bwyllgor 'ambarel' sy'n ceisio cofleidio nifer o'r asiantaethau sy'n gweithio gyda'r digartref yn y ddifleidio n "Mae Caerdydd yn fwy deniadol na Merthyr ac yn ganolfan i'r Cymoedd.

Roedd yr eglwys hon hefyd i fod yn ganolfan dysg a diwylliant; yn arbennig addysg i'r ieuenctid.

Yn dilyn y lobïo ym Mhorthmadog bydd aelodau'r Gymdeithas yn symud ymlaen i Ganolfan Siopa Deiniol ym Mangor erbyn 2 o'r gloch.

mae'n debyg y caiff y ganolfan newydd ei sefydlu ar y parc gwyddoniaeth yn aberystwyth.

Yn achos Ail Iaith Cynradd yr oedd pawb wedi nodi mai gan drefnyddion neu athrawon ymgynghorol y sir y cafwyd yr arweiniad, a'r ganolfan iaith wedi'i enwi gan amlaf, gan y cydlynwyr.

Yn ôl adroddiad papur newydd; pan ffoniodd yr aelod o'r Cynulliad, David Davies BT gyda rhyw gwyn neui gilydd cafodd ei roi drwodd i ganolfan alwadau yn Lincoln - lle nad oeddan nhw nid yn unig yn gwybod beth oedd y Cynulliad ond yn meddwl mai rhyw fath o warden hen bobl oedd Mr Davies ei hun.

"Roeddem ni fel Cyngor yn teimlo fod Bethesda yn y gorffennol wedi cael ei adael i fynd i lawr, a'n gobaith yw y bydd y cynllun adnewyddu yma a'r Ganolfan Chwaraeon newydd yn codi ysbryd Bethesda," meddai.

Yn bennaf, felly, y mae angen i'r cyfarwyddwyr ar y naill ochr a'r Adran ar y llall gydnabod y gellid cyflawni'r tasgau hyn i gyd naill ai drwy gomisiynu gwaith neu drwy gyflogi person ac mai'r ganolfan a ddylai benderfynu pa un sy'n briodol ym mhob achos er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r cymorth a ddyranwyd ac o'r arbenigedd sydd ar gael iddynt.

Dylai unrhyw drefniadaeth gyllidol gydnabod mai cyfarwyddwyr y canolfannau, nid swyddogion PDAG na'r Swyddfa Gymreig, yw'r unigolion â'r wybodaeth orau am yr anghenion staffio mewn unrhyw un ganolfan ac mai'r asiantaeth sy'n cynnal project ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau y dulliau mwyaf effeithiol o gyflawni'r tasgau sydd ynghlwm wrth y gwaith cynhyrchu er mwyn cyflawni'r project o fewn y cyfnod cytunedig.

'O, dyna'r ganolfan cyfnodrannu y mae Dad yn ei datblygu efo rhyw ddynion busnes.

Ond y ganolfan naturiol yn Aberdaron oedd yr Eglwys am ei bod hi mor hen ac yn adeilad sylweddol, a symudiad naturiol oedd i gau'r Capeli a dwad ynghyd yn yr Eglwys.

Aiff y broses o ad-feddiannu yn ei blaen bellach: daw'r Rex yn slei bach yn fan ymarfer ar gyfer y drymiwr, sy'n cadw Tref yn effro yn ystod y nos, ac aelodau eraill pyncaidd ei grŵp; yn garej ar gyfer motobeic Dave na all fforddio talu'r drwydded ar ei gyfer; ac yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer hen ferched y cartref lle cant eu suo i gysgu o flaen y teledu ddydd a nos.

Mae'r ganolfan yn hunan-gynhaliol ac mae gweithwyr yn ailgylchu'r glaw er mwyn dyfrhau'r planhigion.

Yn ôl y Palesteiniaid, ychydig wedyn ymosododd hofrenyddion Israel ar ganolfan yn perthyn i warchodwyr Yasser Arafat, ond gwadu hyn wnaeth byddin Israel.

Mewn un ganolfan yn rhanbarth Arsi gwelsom sut y caiff hadau eu rhoi mewn silindrau bach plastig sy'n cynnwys cymysgedd o bridd a gwrtaith.

Mae BBC Cymru Adnoddau wedi llwyddo i ddod ag elw i'r ganolfan gorfforaethol yn unol â ffigurau'r Llywodraeth ar gyfer Ymgorffori.

Daeth y clas yn ganolfan dysg a hefyd yn fan cyfarfod i bobl o gyffelyb anian.

Am ddeg o'r gloch y bore bydd aelodau o'r mudiad yn mynd i Ganolfan y Celfyddydau Dyffryn Madog, Porthmadog, lle bydd Pwyllgor Gogledd Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cwrdd.

Roedd Nadolig 1998 yn Nadolig BBC Cymru mewn sawl ffordd ar deledu rhwydwaith gyda llu o raglenni gan dîm cynhyrchu cerddoriaeth BBC Cymru - unig Ganolfan Ragoriaeth benodol y BBC ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth y tu allan i Lundain.

Daeth dwy arddangosfa i Ganolfan Gelf Chapter, Caerdydd - 'In Fusion' gan artistiaid o'r trydydd byd sydd wedi ymsefydlu yn Ewrop, a 'Shock to the System', yn trafod themâu cymdeithasol a pholiticaidd mewn celf Brydeinig ddiweddar.

A chyda'r tywydd mawr a'r streic yn taro ar unwaith, wele'r ganolfan wydrog, oerllyd yn cau.

(b) roedd y Cyngor i gytuno i gynnwys cynnig am ganolfan gynghori ym Mlaenau Ffestiniog ar ei restr o prosiectau a gyflwynid i sylw'r Swyddfa Gymreig dan ba bynnag bennawd fyddai'n addas.

dywedodd hefyd : bydd y ganolfan yn galluogi colegau a chyflogwyr i ddarparu addysg a hyfforddiant busnes a rheolaeth amlieithog safon uchel.

Bydd y ganolfan newydd ger Ysgol y Banw wedi ei chwblhau erbyn yr adeg y cynhelir yr wyl y flwyddyn nesaf.

"O'i gymharu â rhai o'r symiau ar y rhestr cyfalaf, dyma swm bitw, bitw iawn," meddai'r Cung Huws, a ychwanegodd: "Dwi'n amau ers tro bod 'na gynllun gan y Swyddfa Gymreig, a gan Gwynedd hefyd, i sianelu arian mawr i ganolfan gwleidyddol poblogaidd sy'n cael eu gweld -- a hynny ar draul yr ardaloedd diwydiannol traddodiadol, lle byddai'r arian yn gwneud mwy o les.

Mewn un awdurdod, yr Athro/ awes B/Fro sydd yn gyfrifol am ymweld ag ysgolion yr hwyrddyfodiaid yn ystod y dyddiau pan na fydd y disgyblion yn y ganolfan, er mwyn sicrhau dilyniant i'r gwaith.

Y gwanwyn nesaf bwriadai fynd i ganolfan chwaraeon i ddysgu dringo.

Roedden nhw dan yr argraff fod y trydanwyr caredig yn gosod goleuadau parhaol yn y ganolfan, er mwyn caniata/ u i'w gwaith fynd yn ei flaen drwy'r nos.

Yn naturiol ddigon, roedd siop brysur y pentre yn ganolfan go bwysig a'r siopwr a'i gynorthwywr, pob un yn ei ffordd ei hun, yn dipyn o gymeriadau.

Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.

Hyd yn oed cyn ysgrifennu'r un o efengylau'r Testament Newydd yr oedd y tueddiad wedi ymwreiddio ymhlith y Cristnogion hynny a ystyriai Rufain yn hytrach na Jerwsalem yn ganolfan y byd.

(Gweddi a gyhoeddwyd gan Ganolfan Sant Samson, Efrog) Hyn, gan obeithio y bydd y weddi o gysur i'r rhai sy'n hŷn ac yn gymorth i warchod rhai iau rhag hunanoldeb.

Croesawyd y rhodd o bedair cadair olwyn gan y Ganolfan Gofal Iechyd yn Llanelwy; mae'r pedair cadair bellach yn cael eu benthyg yn helaeth o bob un o'n pedair swyddfa.

yn unol ag amcanion y ganolfan o greu cysylltiadau a cholegau a chyflogwyr ledled cymru o'r cychwyn, cyhoeddwyd y manylion cyntaf am y cynllun ar rwydwaith fideo prifysgol cymru.

Cost llawn projectau = cymorth grant + cyfraniad - incwm y ganolfan

Fel arfer, disgwylir i ganolfan benodi swyddog project ar gyfer paratoi adnoddau gwreiddiol yn y Gymraeg.

Fe gymrodd hi ryw dridiau ar ôl glanio yn Ankara i groesi Twrci a symud o un ganolfan filwrol i'r llall cyn y gallwn gael hofrennydd i'r mynyddoedd.

Cysylltodd Helo Patagonia! Geraint Lloyd yng Nghymru â dwy orsaf sy'n rhan o'r gymuned Gymraeg - un yn cael ei rhedeg gan Mario Jones, a'i ganolfan yn yr Andes, ac FM Tiempo, a'i ganolfan yn Nyffryn Camwy.

Yr oedd dydd Llun yn ddiwrnod mawr yn Y Porth, Rhondda, pan agorwyd yn swyddogol hen ffatri ddiod pop Corona yn ganolfan heb ei hail ar gyfer y diwydiant adloniant Cymraeg.