Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gant

gant

Saxony - dau gant o Neo-Natsi%aid yn ymgynnull ar faes gwersylla, gan chwarae cerddoriaeth a thraddodi areithiau Ffasgaidd eu cynnwys, ac ymosod ar wersyllwyr eraill.

Er mai am saith mae'r ffilmio i ddechrau y mae'r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump.

mae'r bardd Llydaweg, Youenn Gwernig, wrthin paratoi cyfrol tair-ieithog o gant o gerddi yn y mesur.

Petai'n byw i fod yn gant ni fyddai'n anghofio'r ymweliad hwnnw.

Mae carfan ddatblygu Cymru o fewn un gêm i adael Canada gyda record gant y cant ar ôl buddugoliaeth 32 - 17 dros Canada Ifanc yn Calgary neithiwr.

Eisoes mae dros gant o'r peiriannau gwerth £7,000 wedi cael eu gwerthu i Railtrack.

Yn y cyfarfod ble'r oedd yna dros gant o aelodau'n bresennol mi gyhoeddodd Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach y Torïaid David Heathcote-Amory eu strategaeth ar gyfer helpu busnesau.

Hysbysebodd yn y papur lleol am griwyr a thalu deg doler yr un i gant ohonyn nhw am wylio'r math o ffilm a elwir yn 'tear jerker' þ prociwr dagrau, os mynnwcy chi.

Cyhoeddodd dros gant o lyfrau i gyd yn nofelau, straeon, erthyglau ac yn gyfrolau barddoniaeth.

Mae yn ganol haf yma - dyddiau poeth difrifol - ddoe gydag echdoe bron yn gant, heddiw dipyn bach o awel.

'Roedd Brian Williams yn amlwg yn y sgarmes fel arfer, a chafwyd ymroddiad a brwdfrydedd gant y cant gan y bachwr o Lyn Nedd, Andrew Thomas.

Mae'r busnes yn gwmni cyd-weithredol gyda dau gant o aelodau.

Honnwyd hefyd y byddai dros gant o ddeifwyr yn archwilio gwely'r môr i sicrhau nad oedd unrhyw ffrwydron yno, cyn i Fidel wneud unrhyw nofio tanddwr.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

Dyn a menyw, glowr ac athrawes, comiwnydd a chenedlaetholwraig, Rhondda Saesneg ac Arfon Gymraeg, mae'r gwrthgyferbyniadau'n amlwg, ac fe gant eu hadlewyrchu'n glir yn eu gweithiau.

"A faint o ddynion sydd gennym ni - rhyw ddau gant ar y mwyaf."

Mae potensial haidd yn nhermau cynnyrch yn lleihau o gant i gant a chwarter yr erw am bob wythbos o oedi yn yr hau ar ol dechrau Mawrth.

Braint oedd mynd o Dyddewi, cartref nawddsant Cymru, i Landdewi, lle yn ôl traddodiad y cyflawnodd Dewi Sant lawer o wyrthiau yn y chweched ganrif, i gyhoeddi i gynulleidfa o dros wyth gant o bobl fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dal i iacha/ u trwy rym ei Eglwys a hynny am ei fod Ef yn ddigyfnewid yn Ei gariad, - "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Ar ôl y cyfarfod dywedodd amryw fod y syniad o'r lesu yn iacha/ u yn yr ugeinfed ganrif yn un hollol newydd iddynt.

roedd nifer fawr o gynrychiolwyr y gwledydd yn bresennol yno ac roedd saith gant ohonynt o loegr ac unol daleithiau america.

Ymhlith y siaradwyr diddorol (gan gynnwys John Jones, Rhaeadr Gwy, a gyrhaeddodd ei gant oed) y bu+m yn sgwrsio â nhw, yr oedd un â chanddo stori ddiddorol am ei brofiadau fel labrwr yn helpu i adeiladu'r argaeau dwr.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

"Ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r cynnig?" "Do, Mr Jenkins." "Mae o'n gynnig arbennig o dda cofiwch, dau gant a deg o filoedd am y tŷ a'r fferm a'r hawliau saethu a physgota.

'Ond bydd tîm ifanc ar y cae 'da ni heno a'r cwbwl rwyn ddisgwyl amdano fel rheolwr y clwb yw ymdrech gant y cant.

The Century Speaks oedd project mwyaf uchelgeisiol y flwyddyn, wrth i gynhyrchwyr deithio i bob cwr o Gymru i gasglu tystiolaethau cannoedd o bobl gyffredin o naw mlwydd oed i gant oed.

Yn enwedig y dyddiau hynny y byddai o'n mynd i weld ei wragedd niferus - a'i saith gant o gariadon.

Ar ddechrau'r ganrif gwelid dros drigain o aelodau a thros gant o wrandawyr.

Ond hyd yn oed yn ystod yr amserau drwg parhaodd y Gymdeithas i gynnig rhaglenni Cymreig ac ar hyn o bryd y mae bron i gant o aelodau, a thua chant arall o "gyfeillion".

Cafwyd tri rhediad o gant a mwy ganddo yn ogystal a thri chyfraniad o dros hanner cant.

Yn y gêm arall yn y grwp, gwnaeth Yr Eidal barhauu record gant y cant yn y gystadleuaeth drwy guro Sweden 2 - 1 efo gôl hwyr gan Alessandro Del Piero yn Eindhoven.

Mae 'na ddigon o ddewis yn y catalog, a dim ond dau gant a hanner ydy'r beic bril 'ma.'

Er mai dim ond wyth mlwydd oed oedd ef, ymunodd Dean â Brigâd Ambiwlans Sant Ioan ac yn ei flwyddyn gyntaf rhoes gant chwe deg pum awr o'i amser ei hun i'w helpu.

Roedd cymaint yn dibynnu ar allu ac arweinyddiaeth Horton, ac roedd hi'n wir fod yna gant a mil o ofidiau yn pwyso arno.

I glirio'r ddyled, bydd rhaid i Rhys wenud heb y swm yma am gant ac ugain o wythnosau.

Hefyd, fe fydd priddoedd alcalaidd iawn yn hisian yn swigod pan gant eu profi a finegr.

Mae yna dros gant o gyfeiriadau llyfryddol mewn erthygl o saith tudalen sy'n disgrifio'r ymchwil.

Yn ystod ei gyfnod ef yr adeiladwyd y Festri a'r Tŷ Capel, a chofnodir iddo fedyddio dros gant o blant.

Roedd gan y ddau ddau gant a hanner o bunnoedd yr un yn llosgi yn eu pocedi ac roedden nhw wedi trefnu i brynu'r milgi cyn cyrraedd adref.

Cyrhaeddodd Pencampwyr yr Adran Gynta, Fulham, gant o bwyntiau neithiwr, drwy guro Wolves 2 - 0.

Yr oedd y bont fawr yn un filltir, un fil, saith gant a phum llath o hyd.

Rydw i'n cytuno gant y cant â hynny ...

Dyna'r neges ar y posteri wrth i ddau gant o brotestwyr aros am y Cynghorwyr y tu allan i Gyngor Sir Gaerfyrddin fore Llun 31 Ionawr.

'Mae pob cleient isio teimlo bod 'i gyfreithiwr gant y cant dros ei achos.

Ar raglen Saesneg am Gymru, byddai'n holl-bwysig cofnodi'r ffaith fod dau gant o bobl yn mynd i golli eu gwaith mewn ffatri ym mhellafoedd Sir Fynwy; dylai golygydd y rhaglen Gymraeg, ar y llaw arall, fod yn ymwybodol y byddai llawer mwy o arwyddocâd i ddifianiad hanner cant o swyddi yn Nyffryn Ogwen neu Rydaman.

Lladdodd yr un daeargryn yn agos i gant pum deg o bobl mewn ardaloedd cyfagos.

Slogan poblogaidd heddiw yw: 'Dwi'n gant y cant Cubano!' Hawdd yw harneisio emosiynau o'r fath yn erbyn gelyn mor amlwg ag America, ond mae'r agwedd tuag at yr Eglwys wedi newid hefyd.

Ym Maesteg derbyniwyd croeso cynnes a the Cymreig ganddynt yng nghartref rhieni'r Athro roedd Mrs Joseph wedi paratoi dros gant o "bicau ar y mân" iddynt ymhlith danteithion eraill.