Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganwaith

ganwaith

A'r gŵr a aeth heibio iddi ganwaith heb sylwi arni gan fod ei ffroenau mor uchel, a'i feddwl yn barhaol ar ei filiwn nesaf A digwyddodd rhyw ddydd, iddo adael ei swyddfa a cherdded i lawr y grisiau.

Oni chlywodd ei dad yn bytheirio ganwaith ac yn glafoerian ar ôl clywed am helynt felly ar y teledu neu ddarllen amdano yn y papur.

Wel, y mae hyn oll yn ddigon gwir ac yn ddigon trist, ond pan ddown at yr Eingl-Gymry, fel y'u gelwir, er mwyn hwylustod yn unig, cofiwch, y mae'r sefyllfa ganwaith gwaeth.

Bu'r bardd yn un o golofnau'r achos dirwestol yn nyffryn Aman am flynyddoedd lawer, a bu'n areithio o blaid llwyr ymwrthod â diodydd meddwol ganwaith, er iddo yntau ar ei addefiad ei hun fod yn gaeth i'r arfer ar un adeg.

Er mawr syndod, er bod byw fel hyn yn ymddangos yn ganwaith gwell na marw o newyn ar dir diffaith, roedd nifer fawr o bobl wedi cerdded yr holl ffordd yn ôl i'r gogledd.

Os clywais y gair unwaith, fe'i clywais ganwaith.

Themâu sydd wedi eu trafod ganwaith o'r blaen ond themâu sy'n parhau tra pery dyn.