Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gapel

gapel

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Yna ymlaen i Gapel Newydd, Nanhoron, lle'r oedd Mr Tudwal Jones Humphreys yn ein disgwyl.

Mae Cymdeithas yr Iaith newydd benodi Meirion Davies o Gapel Seion, Aberystwyth, yn Swyddog Maes.

Yn yr Oriel, gellir eistedd mewn replica o Gapel Cildwrn a gwrando arno'n pregethu'n ysgytwol o'i bulpud.

Yn y pegwn arall, yr oedd gan gapel bach Annibynwyr Pant-glas chwech o athrawon a dim un disgybl.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Gan nad oedden yn byw yn y pentref, i gapel Beulah yr awn ni yn y prynhawn.

Yn allanol, yr oedd yr hen argyhoeddiadau'n dal - roedd Duw yn ei gapel, a'i law ar y llyw yn ddi-sigl.

Roedd yn hoff o ganu a drama, yn gefnogol i'r eisteddfod leol a chenedlaethol a phob achos da yn yr ardal, yn aelod o Gymdeithas yr Henoed ac yn aelod ffyddlon o Gapel Ebeneser.

Er mai Bedyddwyr oedd teulu tad Euros, dewisodd fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, enwad ei fam-yng-nghyfraith a fynychai Gapel Hermon, Treorci.

Gyda'r goleuadau'n pefrio a'r carped trwchus, lliwgar, yn wir, roedd yn debycach i eglwys nag i gapel.

"Oes gen ti dipyn o'r hen faw hen faco 'na, Edward?" meddai'r twmpath, a phwy oedd yno ond John Preis, yr hen gerddwr a'r cymeriad rhyfedd o Gapel Uchaf, Clynnog.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Yr oedd gwrandawyr yn aml iawn yn crwydro o gapel i gapel ac o enwad i enwad yn ôl eu mympwy a gallent yn hawdd ymddangos yn ystadegau amryw eglwysi.

Anfonodd David Lewis ef at gapel bach y Babell, ble roedd ei fab a ffermwyr eraill wrthi'n torri'r gwrych o amgylch y capel y pnawn hwnnw.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

Ar ôl treulio rhai dyddiau'n chwilio, deuthum o hyd i'w fedd yng nghanol y mieri ym mynwent yr hen gapel, Cwmllynfell, a'r englyn hwn yn gerfiedig ar y beddfaen:

Yn ei dydd, roedd hi'n adroddreg dda iawn ac yn aelod selog o'r hen gapel Tabor.

Profiad bendithiol i gapel llawn oedd hynny, yn arbennig pan adroddodd Lowri Haf Morgan brofiad y bobl ifainc eu hunain.

'Roedd rhai o'r aelodau hyn nad oedd ganddyn nhw ddim Cymraeg, ond na fuasen nhw byth wedi breuddwydio mynd i gapel Saesneg, gymaint oedd eu teyrngarwch i'r gymdeithas yn y Crwys.

Ysbrydolwyd y gerdd gan farwolaeth glöwr 48 oed, aelod o gapel y bardd a chyfaill iddo, a fu farw o glefyd y llwch.

Gyda chymorth ariannol ei dad-yng-nghyfraith - anghrediniwr di-gapel, gyda llaw - dilynodd tad Euros gwrs addysg am dair blynedd yn Ysgol Baratoi Pont-y- pridd a Choleg Coffa, Aberhonddu.

Gadawsant gapel eu cymdogion am uchel nef yr Eglwys Anglicanaidd.

Y llynedd bu Noson Lawen anffurfiol iawn ar Fawrth 1 yn yr hen gapel yn Y Gaiman.

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

Chwe mis oed oeddwn pan symudodd fy rhieni eu haelodaeth i'r Capel Mawr o Gapel Seion, Stryd Henllan.

Yn niffyg unrhyw sefydliad arall, fe fynegodd y genedl ei hun trwy'r sumbol hwn, - trwy gapel oedd yn ymgorffori agweddau cymdeithasol, pensaerniol, cerddorol, addysgol, a llenyddol bywyd.

Serch hynny, rwy'n cofio mynd ar neges ddirgel i dafarn y Prince of Wales, a oedd yn eiddo i ddau aelod o gapel fy nhad, mynd i mewn drwy'r ardd gefn yn ol ei gyfarwyddyd manwl, i brynu ychydig o frandi iddo am ei fod yn dioddef yn y gwely o'r ffliw ac am wella erbyn y Sul.

Er enghraifft, mae gen i gyfeillion sydd wedi troi yn Efengylwyr, sydd wedi penderfynu, er eu bod yn Gymry Cymraeg, fod yn well ganddyn nhw fynychu Capel Saesneg gan fod hwnnw'n Gapel Efengylaidd, yn llawn hwyl a sbri ac ati.

Cerdded tuag adref i fyny'r llwybr sy'n arwain heihio i Goetra am Gapel y Graig oedd o, pan welodd fod dynes yn cydgerdded ag o i'r un cyfeiriad.

Gall yr Undeb fod yn drigolion stryd arbennig, aelodau rhyw gymdeithas neu gapel, cynllun pentrefol neu unrhyw fath o gymuned.

Lischana Fy nhad a'm difethodd gyntaf - gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i'm hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd: o Oerddrws i Islaw'r dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i'r Ganllwyd o Gapel Curig i Groesor.

Oherwydd hynny penderfynwyd fod yn rhaid wrth adeilad mwy - aethai'r hen gapel yn rhy fychan ers blynyddoedd.

Oherwydd hynny trefnwyd imi gael mynd i 'Gapel Cymraeg' y ddinas agosaf.

capel oedd y Babell, capel bychan gyda rhyw bump ar hugain o aelodau, cangen o gapel Methodistaidd Beili-du, rhyw dair milltir i lawr y cwm.

Bydd yno gapel ac ysgol a senedd-dŷ a'r heniaith yn gyfrwng addoli a masnachu, dysgu a llywodraethu.

Fe wisgai o ei siwt gapel gyda'r nos a'i siwt noson waith yn ystod y dydd.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

Rowland Hughes o gwmpas tri diddordeb bywyd tad John Davies (sef y chwarel, ei gartref a'i gapel), yn fyw o flaen ein llygaid ar y llwyfan.

Roedd hi'n aelod ffyddlon yn yr hen gapel Tabor ac yn ddiweddar yng nghapel Carmel.

GYMDEITHAS YR ENGAN: Daeth y tymor i ben gyda trip i Gapel Salem a anfarwolwyd gan Sian Owen, Ty'n y Fawnog a'i siol.

Bu cerddorfeydd mewn llawer capel yng Nghymru a cheir ambell gapel wedi ei adeiladu gyda lle i gerddorfa o flaen y sêt fawr.