Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garddwr

garddwr

Bob tro y defnyddia garddwr y pridd, dylai roi'r daioni'n ol ar gyfer y cnwd nesaf.

Mae gan bob garddwr ei ddewis cyntaf ond efallai y gellir enwi'r Alicante fel un o'r rhai gorau eu blas.

Y berth o lafant a rhosmari yw ffrindiau mam, ac o'r Plas y cafodd hi'r planhigion gan Edmund y garddwr, a pharhânt i sirioli bywyd mam â'u persawr a'u hatgofion.

Mae cemegwyr wedi datblygu llawer math o wrtaith i helpu'r garddwr a'r ffermwr.

Well garddwr na Huw Gwyn.

Camp y garddwr yw dod i'w hadnabod yn dda fel na bo'n chwistrellu defnyddiau cemegol yn ddiangen.

Mae'r ffrâm oer yn gaffaeliad i bob garddwr.

Ni fendithiwyd yr un garddwr erioed yn reddfol â dewiniaeth yr hen gredo am "fysedd gwyrdd".

Yn ystod y mis, gall y garddwr baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion sydd i'w plannu allan mewn borderi a gwelyau megis y blodau unflwydd fel mynawyd y bugail ac ati.

Gwell fyddai i'r garddwr yng Nghymru baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion hyn ym mis Mai ac aros nes dyfodiad Mehefin cyn eu plannu allan.

Erbyn hyn roedd garddwyr N'Og yn medru tyfu cystal wynwyn a'r Garddwr Brenhinol, ac felly roedd gerddi'r Palas wedi mynd yn ol at dyfu dim ond blodau a ffrwythau gan adael y wynwyn i'r gerddi preifat a'r Lotments.

Y garddwr da yw hwnnw sy'n ymwybodol o'r tymhorau ac yn cyflawni tasgau arbennig ar yr adegau priodol o'r flwyddyn.

Amseriad a chelfyddyd y garddwr yn hytrach na dewiniaeth unrhyw "fysedd gwyrdd" a dry bob ymgais yn llwyddiant.