Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garlamu

garlamu

Mewn ymdrech i geisio'u dal, aeth rhai o'r corachod ar draws eu llwybrau ond cafodd y rheiny eu sathru gan garnau'r ceffylau wrth iddyn nhw garlamu'n anweledig i ffwrdd.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Ond glaw a gafwyd, cenllif a barodd i'r ddau garlamu'n ôl i'r pentref a Dilys yn colli sawdl ei hesgid wrth faglu ar y ffordd garegog.