Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garn

garn

Ymddengys iddo weld gweledigaeth ar y ffordd ger Bryn'refail, yn ei gymell i fynd i'r Garn a darllen.

Cymerth yr awdur Aristoteles yn garn i'w gred.

Mae'r milwr yn sefyll yn dy ymyl â'i law ar garn ei gleddyf.

Byddwn yn trafod llawer gyda John Garn am gymeriadau Pen Llŷn a'u dywediadau bachog.

Defnyddient y garreg-las, wedi ei malu'n fân, hefyd i roddi ar y dolur llaith (foul-foot), ar garn yr anifail.

Edrychwch yn ôl i gyfeiriad Pen-yr-ole-wen a throwch yn araf yn eich unfan draw at y Tryfan, "llofrudd o fynydd" chwedl Gwilym R Jones, heibio dannedd y Gribin at unigeddau'r Glyderau a'r Garn.

Aeth yn ei flaen yn ddidaro nes dod at garn fach o gerrig llwydion ac yna oedodd yn wyliadwrus a llygadrythu ar rywun a eisteddai fel delw yno.

Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac ŷd mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd.

y siglen fraith, tinwen y garn, gwybedog brith, gwennol y bondo, gwennol y glennydd ac amryw fathau o deloriaid.

Ar y dechrau, yr oedd yr Esgob yn fodlon ymafael codwm ag ef, ond troes yn ei garn a dod yn gefnogydd i Syr John.