Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garw

garw

Byddai'n demtasiwn i chwi sefyllian yno nes bo llech y preseb yn wlyb lân, a'r tafod chwilgar garw yn hel y gronynnau o flawd a gollasid ar lewys eich siaced.

(Gwell egluro mai yn ystod yr eiliadau brau hynny y torrwyd y garw rhyngddynt.) Bu'r pryd bwyd yn eitem ddigon diflas ac roedd amryw resymau am hynny.

'Roedd ei waith yn un a oedd yn mynd i barhau, a hyd yn oed ar heolydd garw'r wlad, gallai olwynion o wneuthuriad y saer lleol gael eu defnyddio am tua thrigain mlynedd.

Cefais hwyl garw yn gwrando arno'n traethu am ei ddyddiau yn Llanrwst - ond yr oedd rhai agweddau ar y sioe yn crafu, braidd.

Mae'r math o ddefnydd a wneir ohoni yn mynd i ddylan- wadu ar y math o insiwleiddio sydd ei angen i wrthsefyll yr oerni a thywydd garw.

Y mae'r afon yn llifo'n dawel, nid oes unrhyw ddyfroedd garw na rhaeadrau yma.

Yr oedd tad-cu Dafydd Pen-y-graig, Richard Cwm-garw, a'i frodyr Watkin a William a Morgan Cwm-garw yn ddynion adnabyddus yn y lle yn gynnar yn y ganrif o'r blaen, a magodd bob un ohonynt deuluoedd lluosog o fechgyn cryfion a merched glân.

Diddorol fyddai enwi ychydig o'r rhai mwyaf adnabyddus, megis Dafydd Cwm-garw, Siôn Cwm-garw, William Pistyll- llwyd, Dafydd Cae-glas, Hezekiah Cwm-garw, Siôn Cwm-teg, Pegi o'r Ffarmers, Nansen Pantycelyn, Watkin y Croffte, Dafydd Glynbeudy, Daniel o'r Bryn, William Penygraig, Angharad Azariah, Rachel William y gof, a llawer eraill ar hyd y cymdogaethau cyfagos.

Arwydd o dywydd garw iawn medd y rhai sy'n gwybod helynt yr adar, pan ddaw yr ymwelydd hwn atom yr holl ffordd o Siberia bell.

Biti garw.

Gwaith blin oedd sgrifennu ar glawr rhychiog garw y gist, ond blinach fyth oedd cael allan beth a fynnai John ei ddweud wrth Marged.

Ie, teithiwr garw oedd fy nhad.

Roedd Ifan wedi disgrifio'r tywydd garw; Fe ddarluniai hi y dyddiau llonydd tawel.

On'd oedd pawb yn gwybod mai un garw am godi'r bys bach oedd Lewsyn?

"Rhai garw ydach chi, ie wir, yn cael hyd i mi fel hyn." Gwasgodd y plant o i gwmpas.

Pan nad oedd ond llwybrau digon garw ac anhygyrch i fynd i'r chwareli cynnar cludid y cynnyrch ohonynt mewn cewyll ar gefnau ceffylau a merlod.

O fewn y wlad gaeedig hon daeth y bechgyn i ddygymod â byw garw yr heliwr a'r Pen Cynydd gan ddysgu campau gwyr llys ac ymaflyd codwm.

Amcangyfrifwyd mai rhyw dri chan mil oedd ohonynt, gyda thuedd naturiol i'r boblogaeth grynhoi ar y tiroedd isel ac yn y dyffrynnoedd: anial a choediog oedd llawer o'r tiroedd uchel, ac anodd oedd teithio ar hyd y ffyrdd lleidiog a garw.

Trodd i weld beth oedd wedi'i lorio ac fe'i cafodd ei hun yn wynebu genau glafoeriog un o gŵn Theros, gyda'i drwyn hirfain garw a dannedd fel crocodeil.

Ond yr oedd Dafydd Cwm-garw yn ŵr ofergoelus iawn, yn gredwr mawr yn y cyhyraeth a'r toili yn ôl tystiolaeth un a'i hadwaenai'n dda.

Mae'r trefnwyr yn beio'r tywydd garw a diffyg cefnogaeth yr awdurdodau lleol.

Cyn penderfynu ar y mannau nythu, mae'n rhaid meddwl yn ofalus, nid yn unig i osgoi'r cathod lleol ond i ochel rhag y tywydd garw hefyd.

A biti garw hefyd mai'r bobol sydd heb rithyn o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, na gwybodaeth chwaith cyn amled â pheidio, sy'n penderfynu pwy sy'n cael mwyafrif yn y Senedd.

Watcyn Wyn eto sy'n sôn am y gwr hwn fel un o frodyr Cwm-garw.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Biti garw am hynny, achos mi oedd Mrs Robaits, Cae Hen, wedi gaddo ers talwm y caen ni'n tri fynd efo hi a Jên a Jim i draeth y Foryd am ddiwrnod.

'Biti garw.

Chwaer arall i Nansen Cwm- garw oedd Ruth (m.

Neu gresyn garw!

Llwybr garw, creigiog yw am sbel ac effaith y rhew yn amlwg eto, wedi llyfnhau'r graig i ffurfio palmant rhewlifol.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Yr oedd rhyw angladd mewn cymdogaeth wledig fel Cwm-garw y pryd hwnnw, lle'r oedd y tai yn anaml, yn beth i sôn amdano, ond heddiw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn yr oedd y gymdogaeth yn ei barchu a'i anwylo, - angladd ewyrth Richard Cwm- garw, yn codi o'r tŷ o fewn lled dau gae i'n tŷ ni.

`Ie, wmbreth,' ebe Ernest, ` 'dydw i ddim yn cofio cael mwy o sbort erioed wrth hela, a phiti garw, Harri, i chi fod mor anlwcus.

Fe fydd chwith garw heb ei chroeso a'i gwen garedig.

Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.

Roedd y miri ar ei anterth pan daflwyd y drws yn agored yn sydyn a daeth hen grwydryn garw ei olwg, yn gwisgo rhyw garpiau blêr, i mewn i'r dafarn.