Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gatholig

gatholig

Pentref bychan oedd Sipi, - tair siop ac ysgol Gatholig fawr gyda llawer o ffermydd bychain o gwmpas.

Yr unig feirdd a llenorion i heddu ei sylw yw'r rheiny sydd un ai'n cyfranogi o'r un weledigaeth Gatholig, glasurol ag ef ei hun, neu, fel Andre Gide yn adweithio'n hunan-ymwybodol yn ei herbyn.

Ond mae Nowa Juta yn gartref hefyd i ddwy eglwys Gatholig enfawr sydd yn symbolau o gryfder credoau'r Pwyliaid.

Dyma'r gloch y gorfodwyd i'r awdurdodau comiwnyddol ei chanu ar y dydd y clywyd fod Cardinal y ddinas, Karol Woytyla, wedi ei ethol yn Bab dros yr Eglwys Gatholig.

Ai Thomas Jones o Ddinbych hyd yn oed yn bellach yn ei Ferthyr-draith wrth geisio portreadu'r traddodiad Methodistaidd ac Efengylaidd fel estyniad o'r olyniaeth wir Gatholig sy'n ymestyn tros y canrifoedd.

Yn eu golwg hwy 'roedd y Diwygiad yn gyfrifol am achosi rhwyg difrifol yn yr Eglwys Gatholig.

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

Yr oedd cyffredinolrwydd profiad iddo yn un o'r meini prawf: Pan gyfyd dyn i ganu mewn cynulleidfa y mae i dywallt ei enaid i drysorfa gatholig o fawl.

Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.

Yn y Traethawd dadleuai Newman nad oedd yr erthyglau, o'u dehongli'n gywir, yn wrth-Gatholig nac yn wrth-Babyddol.

Yr adeg honno, wedi ffraeo mawr yn yr Eglwys Gatholig, cafodd rhai ddigon ar Bab Rhufain a gosod Pab arall yn Avignon yn Ffrainc.

Y mae yn aelod o'r Eglwys Lan Gatholig trwy'r holl fyd, a dylai fawrhau braint yr aelodaeth aruchel honno.

Dewisodd ef ochri gyda 'dogma a sagrafen a deffiniad mewn crefydd' (er nad oedd eto wedi ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig), ond parchai hefyd y rheini a arddelai anffyddiaeth rhonc - sef dogma anghrefydd.