Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gawsai

gawsai

Yn wir, âi allan o'i ffordd i 'w swcro drwy ddod â chanlyniadau adref gyda hi, canlyniadau a gawsai yn y dafarn lle byddai'r gynnau mawr yn iro'u gyddfau ar gyfer y brif unawd.

Dywed y trydydd pennill 'trydydd chwarter canrif ni wêl dy gnawd'; a derbyn mai angau yw'r 'trydydd carchar ac osgo'i gysgod arnad', yna pa 'larwm', pa ragargoel a gawsai SL.

Anwylai fy mam yr ybaid cynnar hapus a gawsai yn yr ardal honno cyn cael ei symud yn wyth oed i gymoedd diwydiannol Morgannwg; a diau fod swyn iddi yn yr enw 'Merlin'.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

Cawn wybod hefyd am y taliadau llai a gawsai'r brenin fel y Cymhorthau,Twnc, a Meis.

"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.

Soniodd lawer wrthyf am y wefr a gawsai o forio 'rownd y byd', er iddo fy ngadael mewn peth dryswch pan hysbysodd fi, 'Rydw i wedi bod ar y chwe cyfandir bellach.'

Doedd o erioed wedi gweld Cli%o cyn hyn gan fod Seimon yn byw yn Rhiwlas, heb fod ymhell o'r ysgol, ond roedd yn bur debyg i'r disgrifiad a gawsai ohoni hefyd; yn cyrraedd bron at ben-lin Seimon, côt wen lefn, gyda chlytiau o frown a du drosti, pwt bach o gynffon a chlustiau pigog, ond bod un o'r pigau'n troi at i lawr.

Ai pedwar can mlynedd heibio cyn y blodeuai hwnnw, ond paratowyd y ffordd gogyfer ag ef yn niwedd yr oesoedd canol, ac, ymhen canrif neu ddwy wedyn, gan ymlediad gwybodaeth o'r iaith Saesneg ymhlith y rhai a gawsai addysg ffurfiol.

Yna'r darlun cymysg a gawsai o Janet Hannah yn yr ardd ac wyneb Robin yn syllu'n ddiniwed ac yn ymbil am ei sylw.

Ond yr oedd agwedd amaethwyr yn bur wahanol; er mor atgas ac erchyll oedd effeithiau Myxomatosis, yr oedd pob amaethwr cydwybodol a gawsai brofiad o ddifrod cwningod, yn ei groesawu.

Toeddwn i ddim wedi meddwl dim am y sach nes gweld cymaint o barch a gawsai ar y bws, a'i bod wedi cael lle rhwng y ddau frawd yn y caffi.

Cyfeiriodd William Davies, hwsmon, at y sgwrs a gawsai â Siôn Elias tua hanner awr wedi dau y prynhawn hwnnw ar y ffordd rhwng Hen Dy a Thyddyn Bach.

Gwelwn y byddai i'r rhai hynny gael eu hennill gan fechgyn parchus a chefnog, y rhai a gawsai addysg dda ym more eu hoes.

Yr oedd wedi gosod popeth yn barod ar y gist geirch - pin ac inc a phapur a'r llythyr diwethaf a gawsai gan Marged.

O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.

Gadawyd fy mam ar ol ar aelwyd y Thomasiaid am fod ei thad yn ei beio hi am yr amser difrifol o galed a gawsai ei mam wrth ei geni hi.

Gwelwn ei fod am barhau i'm hamddiffyn, er gwaethaf y gosb a gawsai.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Bu graddau lawer o ymddieithrio ac ymlynu, a chwaraeodd y Goron Seisnig, a gawsai ei chipio gan un o dras Gymreig, ran ynddynt oll.

Byddai'r cylchgrawn hwn a gyhoeddid gan enwad bychan yn cyrraedd cartrefi dros bedwar ban y wlad gan gymaint croeso a gawsai'r golygydd eisoes ar aelwydydd Cymru, drwy gyfrwng y radio a'r teledu, fel colofnydd wythnosol Y Cymro, a golygydd papur cenedlaethol yr henoed.

Problem adnabyddiaeth o'r hunan oedd yr un a gawsai sylw cynnar J.