Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gee

gee

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Erbyn 1911 yr oedd llawer rhagor na hanner poblogaeth Gymraeg Cymru yn ardaloedd y glo, 'wantoning in plenty' chwedl Lingen, a dyna sut y llwyddodd Gwyddoniadur Thomas Gee a'r cyhoeddi helaeth Cymraeg.

Yr hyn sy'n drawiadol yn y cyd-destun penodol hwn yw iddo yn ei lythyr cyntaf ar sir Gaernarfon rybuddio'r awdurdodau yn Llundain fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog teyrnfradwriaeth - a'r troseddwr pennaf oedd Thomas Gee.

Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.

Ar lwyfannau'r cylchgronau Cymraeg bu pobl fel SR a Thomas Gee yn gweiddi'n groch yn erbyn gorthrymderau o bob math, ond dull y brotest ddi-drais a ffefrid gan lawer (hyd yn oed David Rees 'y cynhyrfwr').

A phe bai Ieuan Gwynedd wedi cael byw, efallai'n wir y byddai wedi cyfrannu'n helaethach i fywyd Cymru na Henry Richard a Thomas Gee.

Er i rai helyntion godi yn y De - yn hen siroedd Penfro a Cheredigion ac yn Nyffryn Tywi, er enghraifft - gyda'r ardaloedd o gwmpas Dinbych (cartref Thomas Gee) y cysylltir y Rhyfel Degwm yn bennaf.

Go brin y gallesid bod wedi tadogi'r araith hon ar Thomas Gee chwaith.

Rydym yn chwarae nifer o gemau canu gyda'r plant ac mae llawer iawn ohonynt wedi dysgu "Gee Ceffyl Bach," gydag acen Gymraeg.