Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gefndir

gefndir

Syniad gwych sy'n ychwanegu at gefndir y stori.

Beth ynteu?" "Gweld yr hen furddun wedi mynd yn rhan o'i gefndir yr oeddwn i.

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

Mae hyn oll yn gefndir perthnasol iawn i Farwnad Siôn y Glyn.

Mae'n peri gofid i mi'n aml i weld cyn lleied o'n llywodraethwyr sydd ag unrhyw gefndir o'r fath.

Rhaid ceisio gweld yr Adroddiadau fel esiamplau o anallu llwyr Dirprwywyr o gefndir cymdeithasol, crefyddol, cenedlaethol a dosbarth rhai tebyg i Lingen i ddeall sut y gallai unrhyw un feddwl am gefnogi'r fath fudiadau.

Onid y mudiadau hyn bellach ddylai fod yn gefndir eisteddfod leol.

Mae'r ymateb a fu i Seren Wen ar Gefndir Gwyn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992 yn rhan o chwedloniaeth llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.

Fel y cyfeiria yn y rhagair, mae i Ystad y Goron gefndir o fil o flynyddoeddt a phan gollodd Cymru ei hanibyniaeth yn 1282 aeth darnau ohoni yn rhan o'r Ystad.

Os mynn neb bererindota at wron Cynfal ar hyd ffordd Mr Thomas, awgrymaf ei fod, cyn mynd at Morgan Llwyd: ei gyfeillion a'i gyfnod, yn darllen y gyfrol Saesneg yn "Writers of Wales," cyfrol a rydd iddo olwg ar Llwyd yn ei gefndir ac yn drefnus wrth ei waith ysgrifennu.

Ni pheidiais erioed â chael golwg ar y bedol o fynyddoedd sy'n gefndir i'r cwmwd, a'r rheini'n sefydlog arhosol ar orwel fy mod i ba le bynnag yr awn.

Yn gefndir i'r slogannau roedd yr eglwys Norwyeg ar lan y mor ym Mae Caerdydd.

Ydw i'n helpu plant o ryw gefndir diwylliannol arall trwy ddweud mai fy Neg Gorchymyn i, fy mrechdan i, fy mhepsi-cola i, fy reis i yw'r rhai gorau?

Diau fod sgerbydau yng nghypyrddau pob tylwyth, ac nid ydynt yn brin yn y tylwythau sy'n gefndir i'm stranciau i.

Ac yntau o gefndir glofaol ei hun y mae'r ffaith fod gan lenyddiaeth Gymraeg gyn lleied i'w ddweud am ddiwylllant y glowr yn achos loes arbennig i Hywel Teifi.

Yn y cyfnod hwn y duedd oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd â'r Fyddin.

Galwai laweroedd i'r fenter; a gwyddom i rywrai ymesgusodi rhag ei ddilyn ac i rywrai ymgynnig ac wedyn tynnu'n ôl - y sefyllfa sydd yn gefndir i rai o ddywediadau 'celyd' Iesu megis 'Gad i'r meirw gladdu eu meirw' (Luc ix.

Parodd hyn i Schneider ac eraill gymharu trylwyredd yr awdurdodau yn hyn o beth â'u hymdrechion i ymchwilio i gefndir cyn-Natsi%aid.

Dechreuodd drwy roi peth o'i gefndir ei hun, ac fel y daeth yn aelod o'r Fyddin.

Cyn-chwaraewr y mae'r to presennol yn mynd i fedru uniaethu ag e yn hytrach na phwyllgorddyn di-gefndir.

Nid amherthnasol yn y cyd-destun yma yw sôn am lyfr T Hudson- Williams, Y Groegiaid Gynt, er nad yw'r awdur yn honni fod y gyfrol honno yn fwy na llyfr rhagarweiniol, a ysgrifennwyd gyda'r amcan o roi rhyw syniad am gymeriad a diwylliant y Groegiaid i ddarllenwyr heb unrhyw gefndir o addysg glasurol.

Pa gefndir s'gin y cythra'l gwirion yntê?

Nid yn annisgwyl, yn arbennig pan gofiwn am gefndir Cymreig y ddwy, y pwnc trafod cyntaf oedd y tywydd.

Yng nghysgod coedwig fawr mae nifer o adeiladau pren wedi eu codi sy'n ymdoddi'n llwyr i gefndir y ddaear o'u cwmpas.

Gyda hyn yn gefndir, penderfynodd Cymdeithas yr Iaith mai syniad addas iawn fyddai cyflwyno Ail Lythyr Pennal i'r Prif Ysgrifennydd Alun Michael.

Ni ellir deall Waldo'n iawn-os oes iawn ddeall arno-heb ystyried ei fywyd, ei gefndir a'i yrfa.

Dyma'n fras gefndir ac egwyddorion y mudiad nodau graddedig.

Wilson Evans mewn sgwrs â'r Cymro mai o'i gefndir fel "colier" y daeth yr ysbrydoliaeth am y nofelau:

Credaf ei fod yn beth arwyddoacol fod Williams, Elias ac yntau'n tarddu o gefndir tlawd a difantais.

Gwybodaeth gefndir ddefnyddiol am y iaith Gymraeg ac am Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'i waith.

...ie brawddegau wrth gofio Hiraethog y cynefin unigryw sydd er ei foelni ymddangosiadol mor gyfoethog ei gefndir.

Yn y gorffennol, roedd modd i bawb, o ba bynnag gefndir, fwynhau addysg gerddorol ardderchog wedi llwyddo mewn arholiadau mynediad.

O droi at hunangofiant Kate Roberts, Y Lon Wen, cawn ddigon o dystiolaeth fod hyn yn seiliedig ar gefndir teuluol yr awdures ei hun.

Sūn fflamau tân glo yn llempian ac yn chwythu, aroglau lamp baraffin newydd ei golau, grwndi'r gath ar y mat yn gefndir i ddigwyddiadau amrywiol Nedw ac Wmffra.

ganlyniad, gellir graddol lunio disgrifiad cydlynus o gefndir, cyrhaeddiad ac anawsterau'r plentyn.

Neu ai trwy gydweithio law yn lllaw i gyrraedd y nod o sicrhau yr addysg orau i bawb yn ein cymuned i bob plentyn yn y sir beth bynnag fo ei gefndir, tlawd, cyfoethog, y Cymraeg neu'r di-Gymraeg?

Yn yr adan hon, cawn edrych ar gefndir addysgol yr athrawon.

Mae'n rhyfeddod o gofio'i gefndir - ei dad o hyd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Roedd stamp y Gymuned Ewropeaidd, y cylch o sêr aur ar gefndir glas i'w weld ar yr amdo - yr eironi olaf yno i bawb ei weld.

Er mwyn gwneud penderfyniadau doeth yn y byd sydd ohoni mae'n ddefnyddiol bod â sylfaen reit dda o gefndir gwybodaeth wyddonol.

Fel ysgolhaig ni allai beidio â theimlo oddi wrth yr her i esbonio eu natur eithriadol, a phan ystyriwn ei gefndir meddyliol ef a'i gyfnod, nid syn ydyw ei gael yn taro ar yr esboniad arbennig a gynigiodd.

Cafodd Emma siom o ddarganfod fod gan Madog hefyd gefndir o gyffuriau.

Mae gynno fo gefndir lliwgar, oes.

Mae wedi'i fynegi mewn termau a oedd yn gwbl nodweddiadol o'r dosbarth yna yng nghymdeithas oes Victoria yr oedd ei addysg a'i gefndir wedi ei ragbaratoi i fod ar y brig yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

Eisteddant yn y galeri yn gweu a smocio a sglaffio creision a cheir un o olygfeydd doniolaf y ffilm pan yw'r dair ohonynt yn joio mas draw wrth i'r grŵp chwarae'n egniol i gyfeiliant goleuo dychmygus Tref a'r ffilm gefndir o griw o ddawnswyr ifainc.

Gydag argyfwng cymdeithasol yn gefndir, ymdrecha'r prif gymeriad, y crydd.