Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geid

geid

Yna cofiodd Willie i Ellis Gruffudd ddweud nad llond bol o un peth a geid i ginio ond pigiad o'r naill beth ar ol y llall a hynny heb dalu ecstra.

Mae sylwadau Alun Richards yn ei gyfrol hunan- gofiannol ddiweddar, Days of Absense, yn llai llym na'r hyn a geid ganddo ddeng mlynedd yn ol.

At hynny fe geid storiau a cherddi, heb anghofio'r croesair, ynghyd a deg swllt a chwecheiniog am ddatrys.

NODIADAU DYN DWAD - 'Ryff-geid' Golwg i fro'r Steddfod

Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.

Yr un patrwm a geid ym mhob man yng ngwneuthuriad y pedolau; lle i saith hoelen ymhob pedol, pedair yr ochr allan a thair o'r tu mewn.

Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones.

Dyna brofiad canol a dwyrain Ewrop hefyd; i bob pwrpas ymarferol addysg drwy'r famiaith a geid yn llawer o ysgolion bach y wlad, er mai gwahanol oedd y patrwm yn y trefi.

Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.

Cyflwynir yn y cofiant hefyd ddarlun eithriadol ddiddorol o fywyd Dei Ellis yn y Coleg ym Mangor, a darlun, yr un mor werthfawr, o natur yr addysg a geid yno bryd hynny, ac yn arbennig yn Adran Y Gymraeg.

Pan gyfarfyddai felly a Tomos Jos yr Hafod Sych, ychydig o Gymraeg a geid rhyngddynt hwy bellach ond am y ci.

Ni chaniatê i Bryderi ladd y crefftwyr cenfigennus, 'y taeogion racco', oherwydd fe rybuddid Caswallon a'i wŷr ac fel canlyniad fe geid galanas ofer.

Y mae celfyddyd ysgrifennu a chreu unrhyw fath o lenyddiaeth yn ffrwyth hyfforddiant o fath gwahanol i'r hyn a geid yn yr ysgol Sul.

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Y mae'n cynnig esboniad posibl ar ddistawrwydd Gildas ynghylch Arthur, ac ar y traddodiad amdano fel gormesdeyrn a rex rebellis, chwedl Caradog o Lancarfan, a geid yn yr Eglwys yn yr unfed ganrif ar ddeg.

Bydd yn rhaid aros i weld pa fath o ymateb ymarferol a geid gan yr awdurdodau'n gyffredinol.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Ar wahân i'r addysg Feiblaidd a geid ynddi, bu'n gyfrwng hefyd i feithrin hunanfynegiant.

Gofyn am ysgrifennu gonest, di-dderbyn-wyneb a wnâi Saunders, ac am finiogrwydd a chaledwch yn lle'r meddalwch gwlanennaidd a hawddgar a geid fel arfer.

basai'n cymryd ugain tudalen i ddisgrifio'r weithred o agor drws, a hyd yn oed wedyn, nid y weithred o agor drws a geid eithr disgrifiad mewn geiriau o'r weithred, a fyddai hwnna ddim yn realiti'.

Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr.

Enwir y cyntaf o'r testunau hyn gan Ieuan Llwyd fab y Gargam yn ei awdl yntau i Hopcyn, ac y mae Ieuan yr un mor groyw a Dafydd y Coed wrth dystiolaethu i'r croeso a geid ganddo: fe'i geilw'n 'heirddgler fabsant' yn 'glerwyr frenin' ac yn 'wiwri anant'.