Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geidwadol

geidwadol

Ar ôl naw mlynedd o lywodraeth geidwadol, roedd y diflastod a deimlid tuag at Brian Mulroney, y cynbrif weinidog, yn sicr o effeithio ar gyfle ei olynydd Kim Campbell.

"'Agwedd geidwadol'?", meddech chi, "a hwythau oll yn ddrain yn ystlysau ffwndamentalwyr ac efengylwyr fel Dr Martyn Lloyd Jones?"

Wel, tebyg fy mod yn geidwadol, ond rhywsut ni fedraf yn fy myw fodloni ar y detholion 'ma; y mae'n rhaid i mi gael y Llyfr i gyd, yn Lefiticus ac yn Gronicl ac yn bopeth.

Sylfaenydd y Blaid Geidwadol yn Lloegr oedd Burke, ac mewn adwaith yn erbyn y chwyldroad Ffrengig y lluniwyd egwyddorion ceidwadaeth.

Wrth ymadael â'r Hafod Ganol try Hiraethog at deulu arall ac y mae hen bobl geidwadol yr Hafod Uchaf yn dechrau tyfu dan ei ddwylo.

Dyma blaid geidwadol a'i gwreiddiau yng nghefn gwlad gorllewin Canada, sydd wedi datgan gwrthwynebiad i bolisi dywieithog y wlad, ac am gyfyngu ar rai mathau o fewnfudiad.

Ar un adeg bu'n weinidog yn y blaid geidwadol; bu'n cydweithredu â Rene Levesque pan oedd hwnnw yn brif weinidog Que/ bec; bu hefyd yn llysgennad Canada ym Mharis, ond ffurfiodd y Bloc que/ be/ cois dair blynedd yn ôl, ychydig cyn methiant cytundeb Lac Meech a oedd i roi statws arbennig i Que/ bec.

Anos fyth deall pam y byddai arweinydd y Blaid Geidwadol yng ngwledydd Prydain yn gweld rhinwedd mewn gwneud hynny.

Maen nhw'n eiriau cyfarwydd iawn i'r rhai a welodd ddyddiau olaf y llywodraeth Geidwadol ddiwethaf.

Y mae'r newidiadau yma yn dal i gynhyrfu'r gynulleidfa radio yng Nghymru, er bod llawer o'r ymateb wedi bod yn geidwadol iawn.

O'r Western Mail ar Chwefror y 29ain -- mae'r Blaid Geidwadol mor desprêt am bres gyda brwydr etholiad cyffredinol ar y gorwel fel eu bod wedi hed-hyntio Trysorydd y Gymdeithas, Lyndon Jones, i gynnig help...

Cenedlaetholwyr Ffrainc yw'r blaid geidwadol yno, plaid Charles Maurras a'r Action Francaise.

Artistiaid o dueddfryd geidwadol yn unig a fawrygir gan Saunders Lewis, ac o'r herwydd crebachir ei weledigaeth Ewropeaidd gan ragfarnau ideolegol yn ogystal a chulni daearyddol.

Hyd y gwyddom hwn fydd y tro cyntaf i aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol i gytuno i siarad mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ac fe gyhuddwyd y mudiad o roi lloches ddirgel i Jesuitiaid yn Rhydychen hyd yn oed gan y Times gofalus geidwadol.

Ar ôl cyfnod gweddol lewyrchus yn hanner cyntaf y pumdegau dan y Llywodraeth Geidwadol, dechreuodd yr economi wegian unwaith yn rhagor.

Mi fyddai llywodraeth Geidwadol yn lleihau baich y trethi busnes ac yn lleihau'r Adran Diwydiant a Masnach gan wneud arbedion o £400m.

Bydd hwn yn gyfarfod hanesyddol gan mai dyma'r tro cyntaf i aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol siarad mewn cyfarfod a drefnwyd gan y Gymdeithas.

yn raddol, wrth gwrs, datblygwyd yr offeryn i fod yn llawer iawn mwy dibynadwy, trwy ddoniau george phelps, i raddau helaeth, ond yn y dyddiau cynnar, hawdd iawn fyddai credu fod agwedd geidwadol y peirianwyr seisnig yn ei gwneud yn anodd iddynt dderbyn yr agwedd nodweddiadol americanaidd, sef fod yna ddatrys ar bob problem.

Yn bennaf agwedd geidwadol athrawon y colegau diwinyddol, fel y cefais i nhw, onid e?