Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geilw

geilw

Geilw E.

Geilw John Leland yr afon yn Afon Kefni ac mewn nifer o fapiau cynnar eraill defnyddir orgraff ddigon tebyg.

Sylwer ar y ddau osodiad: (a) dylid cymryd penderfyniadau mor agos ag sy'n bosib at y dinesydd - ac mae ystyr y gosodiad hwnnw'n glir; a (b) dylid gwneud hynny yn unol ag egwyddor subsidiarity, ond dichon y geilw'r egwyddor honno am esboniad.

Geilw'r Pwyllgor am gadw addysg yn wasanaeth barhaus i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy'n atebol i'r gymuned gyfan, sy'n cydnabod ei hanes a'i thraddodiadau ac sy'n fyw i'w dymuniadau a'i hanghenion ar gyfer y dyfodol.

Geilw rhai am weithredu mewn dulliau eithafol dan rai amgylchiadau i gyrraedd eu dibenion, tra dadleua eraill pai pwyll a chymedroldeb yw'r arfau gorau.

Geilw'r Pwyllgor am gadw PDAG yn fforwm ac yn gorff annibynnol ac arno gynrychiolaeth gan wahanol gymunedau Cymru a chan wahanol sectorau'r system addysg yng Nghymru.

Nid dibwys mo'r meddwl politicaidd iddynt, ond geilw argyfwng eu cyfnod am ymgyrchu a brwydro, yn bennaf peth.

'Prydydd a'i geilw paradwys'; 'Cyntedd gwin a medd ym yw' 'Lle seinia lliaws annerch'.

Yn Celtic Remains geilw Lewis Morris hi un tro yn Caint, a thro arall yn Cant.

Rhaid meddwl o ddifrif am alw'r Gynhadledd y soniwyd amdani, a'r ddau gwestiwn a gyfyd yn naturiol ydyw pwy a i geilw ac ymhle y'i cynhelid?

Enwir y cyntaf o'r testunau hyn gan Ieuan Llwyd fab y Gargam yn ei awdl yntau i Hopcyn, ac y mae Ieuan yr un mor groyw a Dafydd y Coed wrth dystiolaethu i'r croeso a geid ganddo: fe'i geilw'n 'heirddgler fabsant' yn 'glerwyr frenin' ac yn 'wiwri anant'.