Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geiniog

geiniog

Dyma ochr arall y geiniog i'r entrepreneurism y bu'r Hen Wyddeles yn canu'i glodydd ers bron i ddegawd.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

Yn ogystal â'r ugain punt, 'roedd ganddo ddeuddeg swllt a dwy geiniog yn ariandy cynilo'r llythyrdy ac ychydig o bapurau punt yn y tŷ - swm bach eitha' taclus ac ystyried ei sefyllfa.

Bu dadlau am sbel go dda, a'r goruchwyliwr yn gwrthod rhoi yr un geiniog ym mhen y pris, a'r diwedd fu i Wil wylltio, ac meddai: "I'm not cyming here to hambygi my horsus for you.

Yr oedd y geiniog wedi disgyn.

Yn academaidd, roedd hi'n ddadl rhwng Safon Byw a Chadernid Economaidd, ond yn y bon dadl ydoedd rhwng wynwyn a'r geiniog felen.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

`Mwy nag y leiciwn i ddweud wrth neb, syr.' Sisialodd Ernest air yng nghlust ei dad, ac ebe'r olaf: `Faint gymeri di amdani, Harri?' `Yr un geiniog lai na chanpunt,' ebe Harri.

Yr oedd rhai ohonom yn cael cyflog digon deche ond eraill, mwy swrth, yn bodloni byw ar rhyw geiniog neu ddwy.

Ochr arall y geiniog yw i'r ddau gwmni mawr fod yn angau i nifer o siopau llyfrau llai - yn enwedig rhai sy'n gwerthu llyfrau arbenigol mwy cyfyng eu hapêl.

Byddai'n gweiddi, Cofiwch y Saboth, i'w gadw'n sanctaidd," ac ni wariai geiniog ar eillio'i farf ar y Sul.

Ond yr oedd ochr arall i geiniog cydweithrediad.

Am na wyddai neb mai dymuniad pennaf Abel oedd imi fynd i'r coleg, ac am na ddywedodd efe wrth un enaid byw ond wrthyf fi fy hun na chawn fod mewn eisiau o geiniog tra byddwn yno, ac am imi ystyried Siop y Gornel fel fy nghartref bob amser.

Un bore, heb geiniog yn ei phwrs i brynu bwyd, penderfynodd ofyn i berchennog siop fratiau am waith.

Pe bai hi'n mynd yn dwll arno a gorfod mynd i gartre' henoed, ni welai yn ei fyw pam y dylai dalu mwy yno am ei fod wedi cadw rhyw geiniog neu ddwy.

Roedd cymylau duon dyledion ar y gorwel a chryn dipyn o'r sglein wedi mynd oddi ar y geiniog felen, safon arian N'Og ers teyrnasiad Braianllwyn Dew.

Eu gwerthu am geiniog yr un mewn tafarnau a ffeiriau ac yna gwario'r pres ar gwrw a dianc heb dalu oedd ei arfer cyn hynny.

(Gyda llaw, os cofiaf yn iawn, dwy bunt dau swllt ac wyth geiniog ydoedd cyflog wythnosol dyn clirio'r eira oddi ar y ffordd y pryd hynny!) Sylwais y bore yma fod asgell-goch ymhlith yr adar oedd yn bwyta briwsion ar y lawnt.

Mi godais yn fore, Mi redais yn ffyrnig I dy Mr Jones I mofyn calennig, Rown wedi bwriadu Cael swllt neu chwe cheiniog, Roedd rhaid im fodloni Ar ddime neu geiniog.

Mae'n bosib llwyfannu drama am geiniog a dimai - ond mae'n rhaid cael cynllunydd i wneud i'r geiniog a'r ddimai yna weithio orau bosib.

Rhoi ei farn trwy ddangos yr ochr arall i'r geiniog, fel petai, a wna'r awdur ac nid oes rheidrwydd I'r darllenydd i gytuno ag ef o gwbl.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.