Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geiria

geiria

'A pheidiwch â defnyddio unrhyw air sy'n amheus mewn unrhyw ffordd.' Ac yn rhyfedd iawn wyddech chi, roedd na rhyw eiria, O, geiria roeddan nhw'n defnyddio nhw yn Sir Fôn, geiria bob dydd felly fel 'blonag' er enghraifft, O chaech chi ddim defnyddio'r gair hwnnw gin Sam mewn dim.

A syllu, syllu ar eiria'r daflen, geiria caled ar y gwyn llyfn, fel tasa dal i sbio'n mynd i ddileu'r geiriau neu yn newid yr enw i enw rywun arall y medran ni yn haws ei sbario.

Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.