Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gelen

gelen

Hebryngwyd y broga a'r gelen o dan wreiddiau'r wemen at risiau a grymai dan berfeddion pydredig y boncyff.

Castall C'narfon ydy o!' 'How dare you!' gwichiodd llais wrth i'r gelen a'r broga Iygadu'r porth.

Glynai Modryb Lisi wrthyf fel gelen, er i mi awgrymu'n gynnil y byddwn yn ei chyfarfod hi a Miss Lloyd yn nes ymlaen yn y lle a'r lle ar yr adeg a'r adeg.

Roedd dod ar draws chwilen a fedrai siarad iaith wahanol i iaith gliclyd y chwilod, er mor ddigri ei fersiwn ohoni, yn achosi i'r gelen deimlo rywfaint yn nes ati.

Mater o anrhydedd oedd glynu wrth ei ddewis fel gelen.

Symudodd ymlaen i weld yr hyn oedd yn brawychu'r gelen.

Yna, wrth i Gethin ei lapio'i hun amdano, crawciodd yn boenus, 'He, gofala lle wyt ti'n gosod y blydi sugnydd, wnei di!' 'Ddrwg g-gen i,' sibrydodd y gelen a'i enau wedi'u cloi'n dynn.