Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gelyniaethus

gelyniaethus

Dywedir bod boneddiges yn byw yn yr ardal ar y pryd, a oedd yn dra gelyniaethus tuag at bobl y capel, neu 'y pengryniaid' fel y'i gelwid hwynt, ac iddi godi ffermdy Groes Gwta rhwng y Capel a'r ffordd fawr er mwyn ei guddio o'r golwg wrth fynd a dyfod ar ei theithiau.

Yr oedd tôn ei feirniadaeth yn ddigon gelyniaethus i'w hatal rhag cylchredeg hyd yn oed os na theimlai'r prelad y gallai eu gwahardd yn llwyr.

Fodd bynnag mae un adran o'n garddio all fod yn fwy trafferthus nag arfer inni eleni yn ystod y tymor tyfu, pryfetach gelyniaethus a chlefydau.

Byddai dianc oddi yno, meddai, yn anodd; 'roedd y tywydd yn gymhedrol a'r wlad heb anifeiliaid gwyllt na brodorion gelyniaethus.

A rhaid oedd canolbwyntio ar ddal sylw'r werin, digon gelyniaethus ac anghwrtais yn aml, a oedd yn gwrando.

Unwaith y torrodd y Diwygiad allan troes eu hymddygiad yn fwy gelyniaethus fyth.