Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

genhedloedd

genhedloedd

Hawliai Israel fod Duw wedi'i dewis o blith holl genhedloedd y ddaear yn forwyn iddo, yn genedl etholedig.

Ni bu angen i'r Cymry wenud hyn eriod; neu, fodd bynnag, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhy falch o'u traddodiadau hwy eu hunain i ddymuno rhoi'r gorau iddynt a mabwysiadu dulliau a fenthycwyd o genhedloedd eraill.

Parhaent yn genhedloedd er eu bod bellach yn gaeth a di-wladwriaeth.

Dim ond dwy enghraifft yw'r rhain o blith llawer o genhedloedd sydd yn rhoi gwerth ar eu hieithoedd yn sgil democratiaeth. 08.

Pe byddai'n genedl byddai'n parhau wedi'r dileu'r wladwriaeth fel y parhaodd Cymru a'r Alban yn genhedloedd heb wladwriaeth.

Yr union haneswyr hyn, a drodd eu cefnau ar yr olwg Hen-Destamentyddol ar hanes, a ddechreuodd ymosod ar y chwedlau drwy ba rai yr oedd historiwyr gwahanol genhedloedd wedi cuddio'u hanwybodaeth am eu dechreuadau.

Gall fod gan nifer o genhedloedd un wladwriaeth rhyngddynt, megis yn Awstria, Hwngari ddoe a Phrydain heddiw.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth cwestiwn addysg a'r famiaith yn bwnc llosg ymhlith mwy nag ugain o genhedloedd diwladwriaeth yn Ewrop.

Duw a'i gosododd yn y berthynas hon, ac nid Israel ei hun; dyma a'i gwna'n wahanol i'r holl genhedloedd eraill.

Fe'i haddolwyd gan drigolion nifer o wledydd fel coeden sanctaidd i dduw yr awyr a alwyd gan genhedloedd gwahanol yn Zeus, Jupiter, Thor neu Taranis.

Dull y rhan fwyaf o genhedloedd wrth alw rhywun atynt ydyw rhoi arwydd â'r fraich gan ddal cledr y llaw tuag i fyny.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

Meddyliwch am ieuenctid yn sefyll o'ch blaen o ddeg o wahanol genhedloedd Ewrop.

Dyfynnaf o adroddiad yr Undeb i'r wasg y llynedd - geiriau'r Ysgrifennydd, Denis Evans: "Bu Cymru erioed yn un o genhedloedd gorau rygbi trwy odidogrwydd Cymry.

Nid masgot ein criw bach ni yw Iesu Grist ond yr un y mae a wnelo â holl genhedloedd daear.

Yn yr un modd cyfoethogir y gymdeithas ddynol gan genhedloedd amrywiol.

Wrth lanhau'r Deml yr oedd yn cyflawni gweithred sumbolaidd yn null yr hen broffwydi i ddwyn i'r amlwg y wedd fydlydanol ar obaith Israel, yr awydd am weld teml ei ffydd yn yr unig wir Dduw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.

Mae yna genhedloedd sy'n trin diwylliant fel rhywbeth ym perthyn i'r deall ac i'r meddwl, ac mae yna genhedloedd eraill, mwy niferus, sy'n siarad amdano fel petai'n beth.

Ni fu'n rhaid inni erioed dddibynnu ar genhedloedd eraill, ac nid ydyw hi'n fwriad gennym ddechrau'n awr." Amen.

Y mae Lloegr, Yr Alban a Chymru yn genhedloedd; gwladwriaeth yw Prydain.

Awgryma'r pwyslais hwn ar arbenigrwydd Israel, sy'n seiliedig ar y ffaith fod Duw trwy ei hethol yn ei gosod ar wahân i'r holl genhedloedd eraill ac nad ydyw ychwaith yn berthnasol i drafodaeth ar genedligrwydd fel y cyfryw.

Ac fe aeth ymlaen i ddarllen 'Adnabod' - a gwyddwn cyn iddo orffen mai honno oedd ei gân oedd yn mynegi'r hyn yr oedd ef yn dyheu amdano - sef gweld cariad ac ewyllys da yn bodoli rhwng pobl o wahanol genhedloedd.dyma Waldo'n gofyn iddo a oedd ganddo lamp beic i'w gwerthu.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.