Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

genwair

genwair

Bydd yr hen dwb golchi sy'n nghefn y ty yn cael ei sbyddu am bryfaid genwair bach rhai rwyf wedi eu casglu'n ofalus drwy'r haf - a dyna fi'n barod am ymweliad â'r Ddyfrdwy i drotio am lasgangen yn ystod y tri mis hwn!

Mi oedd hi'n brysur iawn ar y cei hefyd - llonga'n dŵad i mewn a llond 'u rhwydi nhw o bysgod yn gwingo 'run fath â phryfaid genwair - O!

Dydy'r pry-genwair 'ma ddim isio stîd heddiw.

Yna aeth o docyn tail gwartheg i docyn gan eu cicio yng ngolau'r ffaglen a hel llond tun o bryfaid genwair.

(Mae pry genwair yn gallu bwyta gwastraff gegin ac yn gadael gwrtaith defnyddiol).

Genwair ddeg troedfedd ffibr carbon, rîl yn cario lein nofio AFTM.

Wedi dewis man da ar lan yr afon tynnodd Alun ei focs pryfaid genwair o'i fag.

Teimlai'r pry genwair yn gwingo yn ei law ac yna'n neidio wrth i'r bachyn ei drywanu.

Roedd wedi darllen yn Fishing Fantasy, gan Capten Jac Hughes-Parry o Langollen gynt, fod sewin yn cymryd pryf genwair yn oriau'r nos.

Be sy, pry-genwair?