Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gerbyd

gerbyd

Roedd y capten llong yn yr ail gerbyd a ddaeth i'r golwg.

Yr oedd y gramaffôn a gawsai fy nghyfaill Williams yn gyfnewid am gerbyd modur aneffeithiol, yn byrlymu allan nodau prudd-felys "Y Sospan Bach," ac yr oedd aroglau dymunol dros ben yn trwytho'r awyrgylch.

'Wel, os cofiwch chi, mae 'na gerbyd neu fan neu rywbeth tebyg yn danfon y dyn at Lety Plu bob tro.' 'Iawn,' meddai Gareth.

ond hei lwc na fyddai angen hynny, a chamodd tuag at ei gerbyd, neu, o leiaf, dechreuodd gamu.

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, adael maes yr ^Wyl yn Nyffryn Lliw ar ddydd y coroni, eisteddodd nifer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gerbyd i'w rwystro.

Yr unig arwydd o fywyd ym Methlehem oedd ambell gerbyd milwrol yn sgowtio o gwmpas.

Wedi'r cyfan, mae'n amlwg fod carafan, fel unrhyw gerbyd arall yn colli rhagor o'i gwerth yn y misoedd cyntaf nag mewn unrhyw gyfnod ar ol hynny.

Ymhen hir a hwyr brasgamodd arweinydd y Cremlin tuag at ei gerbyd hirddu.

Difyr yw ceisio dadansoddi'r pethau bychain sy'n ennyn gwen, fel yr hen gerbyd treuliedig hwnnw'n rhoncian ymlaen yn boenus o araf gyda cherdyn ar ei du ol; RUNNING OUT!

.' Yn y man, euthum i ddanfon y meddyg at ei gerbyd.

Fel rhif cofrestredig ar gerbyd y mae, meddent, yn rhagarwydd o ddrwg.

O'r diwedd wedi hir ddisgwyl, dyma gerbyd mawr crand yn gyrru at yr ysgol a dyn â chap pig wrth y llyw.

Gorfod sefyll yn amyneddgar am awr a hanner cyn cael esgyn i gerbyd.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.

Roedd rhywfaint o drafferth yn y maes awyr yn Tel Aviv yn anochel, ond gwnaed y sefyllfa'n waeth gan fod un o'r ddau gar a'n cludodd yno yn gerbyd Palesteinaidd.

Yr unig beth a amharodd ar bleser y daith oedd gweld milwr Prydeinig yn neidio allan o'i gerbyd i fonclustio a chicio Eidalwr a fethodd â chilio o'i ffordd mewn pryd.

Hoffai deimlo cynhesrwydd byw Barnabas yn symud oddi tani, ac ni ofidiai fyth am fod y ffordd i lawr o Frynmawr i'r dre yn rhy arw i gerbyd.