Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gerddoriaeth

gerddoriaeth

Yn ystod yr wythnos cyflwynodd Adam Walton sioe ar gyfer y gynulleidfa roc a chyflwynodd Kevin Hughes sioe gerddoriaeth nosweithiol o'r siartiau.

Roedd y siarad yn uchelach na'r gerddoriaeth - ar y dechrau.

Nid wyf am wadu am foment nad wyf wedi bod yn hoff iawn o gerddoriaeth ers pan oeddwn yn hogyn.

Maen amser da i sgrifennu - geiriau neu gerddoriaeth.

Chwaraeodd John Lenney Junior gerddoriaeth fel sydd yn y clybiau nos mwyaf ffasiynol yn The Club.

Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.

Enillodd ffilm ar John Cale y Rhaglen Gerddoriaeth Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, a Satellite City gafodd y Wobr Adloniant Ysgafn Orau ar yr un achlysur.

Mae'r gerddoriaeth yn nodweddiadol o arddull y grwp ac yn sicr yn gan i godi'ch calon.

Darparodd Ram Jam a Beks gynyrchiadau safonol i'r gwrandawyr, tra cymerodd Traciau Trobwynt olwg fwy mympwyol ar y ffordd y mae cerddoriaeth yn effeithio ar unigolion drwy ganfod y trobwyntiau ym mywydau pobl fel yu diffiniwyd gan gerddoriaeth.

Mae Sambarama hefyd yn cynnwys fersiwn Saeneg o'r un gân, Bright Nights/Dark Days ac er fod y gerddoriaeth wrth reswm yr un peth, mae'r acen Eingl-Gymreig yn debyg i gymaint o grwpiau eraill, ac yn amharu ychydig ar y fersiwn hon.

Mae carped sy'n adrodd darnau o'r stori ar lawr swyddfa'r cofrestrydd ac ni chaniateir i unrhyw un ganu unrhyw fath o gerddoriaeth yn y Bungelosenstrasse oherwydd ar hyd y stryd hon, yn ôl y chwedl, yr arweiniodd y Pibydd y plant cyn iddyn nhw ddiflannu.

Drum ‘n' Bass ydy natur y trac hwn a mae'r alaw mae Sian yn ei chanu yn gyferbyniad diddorol i'r gerddoriaeth.

Ei chynnig olaf i geisio tawelu pethau oedd dod o hyd i gerddoriaeth roc eithriadol o swnllyd ar y radio a'i droi i fyny'n fyddarol o uchel.

Gyda DJ Dafis yn parhau i arbrofi, felly, heb sôn am gerddoriaeth drum ‘n' bass Dau Cefn a'u tebyg, mae'r sîn ddawns Gymraeg yn dechrau ehangu o'r diwedd.

Yn wir, y record gyntaf imi ei phrynu oedd Megamix gan Technotronic (dechrau da te ba'?!), ac fe fyddai'r casgliad yn cynyddu'n wythnosol, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth y clybiau gan amlaf.

Session in Wales - Bethan Elfyn a Huw Stephens Mae llwyddiant bandiau fel y Manic Street Preachers, Catatonia ar Stereophonics wedi gosod Cymru ar flaen y gad o ran diwylliant cwl, ffaith a gydnabyddir gan gyfres eithrio BBC Radio 1 Session in Wales, syn edrych ar dalent sylfaenol y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Ceir yma arddull wahanol i Carreg, gan fod y penillion yn weddol acwstig eu naws, ac yn sicr mae llais Mei yn gweddu'r math yma o gerddoriaeth yn well.

Cyn bo hir bydd tudalen gerddoriaeth yn niffyg unrhyw sylw gwerth chweil gan y cyfryngau Cymraeg eraill, a thudalen yn canolbwyntio ar un cell/rhanbarth pob rhifyn.

"Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybu'n rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias," meddai llefarydd.

Syndod oedd clywed y math o gerddoriaeth mae aelodaur grwp yn ei wrando, o glasuron Queen i Guns n Roses ac ambell i anthem ddawns Ibiza.

Defnyddiodd, a chamddefnyddiodd Llewellyn, rythmau siarad a ffurfiau gramadeg yr iaith Gymraeg yn ei Saesneg, ond y gwir amdani yw na ellir clywed yr iaith yn sŵn canu'r cor meibion, y newyddion Cymreig hwnnw sy'n gwneud y tro yn lle iaith, diwinyddiaeth ac yn rhy aml gerddoriaeth, ond sy'n dal i gyffrwrdd a'r galon.

Mae gan bob un gariad tuag at gerddoriaeth a brwdfrydedd dros ganu.

'Roedd yr EP, Yr Unig Ateb! gan Ty Gwydr ym 1990 yn gwbl wefreiddiol ond, yn naturiol, mae'r gerddoriaeth wedi dyddio erbyn hyn.

'Roeddwn yn fwy araf yn dod at gerddoriaeth offerynnol.

Cyfrannodd BBC Cymru gyfres o gerddoriaeth arbenigol ar Radio 2 am y tro cyntaf yn ogystal ag eitemau nodwedd.

Un o brif broblemau'r cyfrwng arbennig hwn ydi'r ffaith fod yna gymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth ddawns.

Mae'n bleser cael y cyfle i wasanaethu'r gwerthoedd yr wy'n credu ynddyn nhw." Dyna nodwedd llawer o'r cynhyrchiadau y mae ef wedi gweithio arnyn nhw yn y gorffennol, llawer ohonyn nhw ar y cyd gydag awdur y gerddoriaeth y tro hwn, Eirlys Gravelle.

Ond wedi cyfnod o arbrofi dwys - "blwyddyn a hanner, a ninnau heb wybod i ba gyfeiriad yr oedden ni'n mynd" - ar ddamwain y trôdd at gerddoriaeth boblogaidd.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Roedd seddau wedi eu cadw inni ym mhen blaen neuadd berfformio yr adran gerddoriaeth.

Cafwyd trydydd tymor llwyddiannus i'r gyfres o gyngherddau o gerddoriaeth fodern, NOW Hear This, gyda'r gynulleidfa'n dyblu.

Dangosodd tîm cynhyrchu adloniant BBC Cymru ei allu i gynhyrchu sioe stiwdio gerddoriaeth a sgwrs gyda seren fawr o fyd y theatr gerddorol.

mae'r brif gân yn gwbl nodweddiadol o gerddoriaeth Melys ond hyd yn oed yn fwy electronig na rhai ou caneuon blaenorol.

Pan oedd yn ddeg oed ac yntau'n gwneud yn well ac yn well gyda'i wersi piano, dywedodd ei fam, a oedd yn athrawes gynradd, wrtho ei bod yn bryd iddo roi'r gore i gerddoriaeth a dechrau canolbwyntio "ar bethau pwysicach".

Canwr a chyfansoddwr, mae Geraint Griffith wedi bod yn recordio ei gerddoriaeth ers 1973.

Ymysg y gerddoriaeth â ddewisodd ar gyfer ei gyfweliad gyda Michael Berkeley dewisodd "glywed" darn enwog John Cage, 4' 33".

Roedd y ddau wrth eu bodd gan eu bod yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol ac ar y nos Wener cafodd y ddau noson i'w chofio - a mwy fyth o achos cofio pan ddaethant adref a chanfod fod lladron wedi dwyn popeth oedd o werth yn y tþ...

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

Mae'r gerddoriaeth wedi newid i ryw raddau hefyd.

Mae'n fy atgoffa o gerddoriaeth grwp o'r enw Toto o ddiwedd y 70au.

Fel rhan o'r broses o godi ymwybyddiaeth ymhlith ieuenctid ac oedolion yr ydym wedi darparu tapiau sain o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes i dafarndai a chlybiau'r ardal i'w chwarae fel cerddoriaeth cefndir.

Fe welodd y grwp eu cyfnod prysura ar ddechrau'r 90au - erbyn hyn wedi hen sefydlu ac yn mynd o nerth i nerth gan fod, bellach, yn un o gonglfeini'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

O ran y gerddoriaeth, serch hynny, ‘rydym yn dueddol o ffafrio yr hyn a geir ar drac un.

Daliwn i ddawnsio, i fwyta bisgedi, i wrando ar gerddoriaeth tra mae dec isaf y llong yr ydym yn eistedd mor gysurus arni'n prysur lenwi â dþr.

Cyfeirir ato fel "rhyw hen foi" oherwydd ei negyddiaeth tuag at y gerddoriaeth a'r sîn yng Nghymru "...a dwi'n dal i deimlo'r embaras efo'r Sîn Roc Gymraeg.

Roedd ambell i label yn arbenigo mewn un math o gerddoriaeth hefyd, - Elektra a'r canu gwerin protest yn y chwedegau, Stiff a'r caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn y siathdegau, Factory a'r don newydd o grwpiau 'difrifol' a ddaeth yn sgil canu pync.

Gwybodaeth am gerddoriaeth a recordiau Rhys Mwyn yr ôl-bynciwr a fu'n canu gydag Anhref a grwpiau eraill.

mae'r math hwn o gerddoriaeth wedi ei odro hyd syrffed yn ddiweddar.

Yr oedd llawer o gerddoriaeth cyfoes Ewropeaidd bryd hynny wedi'i drochi mewn euogrwydd - 'roedd straen cymdeithasol ar y cyfansoddwyr - cyfrifoldeb y cyfansoddwr tuag at ei gymdeithas, a 'roedden nhw'n benderfynol o brofi hynny.

"Os rhywbeth, mae'n well gen i gerddoriaeth glasurol." Mae ei atgofion o wrando ar gyngherddau mawr y byd ar y radio yng nghwmni ei dad yn y Felinheli mor fyw ag erioed.

Un o gwmniau recordio mwyaf gydag amrywiaeth o gerddoriaeth o'r traddodiadol i ganu pop.

un noson, wrth gyfansoddi darn o gerddoriaeth, daeth fflach o weledigaeth, ac o hynny ymlaen ymroddodd yr oll o'i oriau hamdden i ddatblygu ei syniad, ac i adeiladu model gweithredol.

Cyfrol am gyfraniad Arglwyddes Llanofer i gerddoriaeth Cymru yn y 19eg ganrif.

Fe ddechreua Just Enough Education to Perform yn yr un modd yn union â'r albym flaenorol, wrth i'r gerddoriaeth gynyddu'n raddol nes ffrwydro tua munud wedi i'r trac agoriadol, Vegas Two Times, ddechrau; ond yr hyn sy'n fy nharo i wedi'r ffrwydrad hwn yw pa mor debyg i gerddoriaeth Aerosmith yw'r gân yma.

Ar yr un pryd daw y gerddoriaeth roc o ystafell Gari yn fwy clywadawy.)

Roedd y defnydd o gerddoriaeth siwdo-Islamaidd yn ystrydebol.

Astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Chethams, y Conservatorio di Francesco Morlacchi, Perugia a Phrifysgol Caergrawnt, lle derbyniodd ysgoloriaethau corawl ac academaidd ill dau (yn ogystal â bod yn lesyn pêl-droed), cyn cychwyn ar Ysgoloriaeth Arwain yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol, o dan Norman del Mar.

O ran y gerddoriaeth, rhoddodd BBC Radio Cymru anogaeth i'r newydd a chyfle i'r profiadol.

Richard Mills, gerddor gwych ag ydoedd, a ddaeth a phobl y Rhos i afael ar gerddoriaeth glasyrol, ac o dan ei fatwn ef, mae'n debyg, y canwyd y Messeia am y tro cyntaf yn y Rhos.

Os dywedaf ar y dechrau fel hyn nad oes gennyf ddim gwybodaeth dechnegol am gerddoriaeth, fe ofynnir ar unwaith paham yr wyf yn mentro sgrifennu amdani ynteu?

Hefyd, mae'r Gerddorfa yn hybun rheolaidd gerddoriaeth o Brydain ac yn enwedig waith cyfansoddwyr o Gymry fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias, meddai llefarydd.

Nid oes yna unrhyw dinc o gerddoriaeth y grwpiau yma yn eu cerddoriaeth ac mae'r aelodau yn mynnu dweud eu bod yn hollol wreiddiol.

Dyma gân sydd ychydig yn wahanol i'r gweddill - yn bennaf oherwydd natur y gerddoriaeth.

Trac offerynnol ydi Hamfatter ac fel gyda phob cân debyg mae yna duedd iddi fod braidd yn undonog ar brydiau - ond fel gyda'r caneuon eraill ar yr EP mae yma gerddoriaeth sydd yn eithriadol o swynol.

Dyma'r safle a fydd yn gweddnewid y sin gerddoriaeth Gymraeg yn y blynyddoedd nesaf yng Nghymru.

Yn sicr mae Mc Mabon yn haeddu cydnabyddiaeth am y gerddoriaeth arloesol mae o'n ei gynhyrchu.

Dydd Gwener, Mawrth 9, 2001 Os ydach chi'n llwgu am gerddoriaeth Gymraeg, a hwnnw'n dda, yna dyma'r risêt i chi.

Yr oedd hefyd yn un o organyddion y capel, ac yn hoff iawn o gerddoriaeth.

Mae wedi ennill tair Gwobr Gramophone, Grammy (am Peter Grimes), Gwobr Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain am wasanaethau i Gerddoriaeth Prydain, Gwobr Syr Charles Groves a Gwobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus Coleg y Frenhines Caergrawnt.

Yn sicr, mae'r harmoneiddio a geir ynddi yn adlewyrchu arddull Steve Tyler a'r criw, sydd unwaith eto yn arwydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau ar gerddoriaeth Stereophonics.

Safle sydd wedi addo "gweddnewid y sin gerddoriaeth Gymraeg" dros y blynyddoedd nesaf.

Casgliad godidog o ganeuon syn gyffrous, yn wreiddiol ac syn ehangur sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Ond, wrth gwrs, cyffredinoli'n ofnadwy ydyw sôn am gerddoriaeth fel y cyfryw.

Y mae'r albym yn ddatblygiad o'r un flaenorol a mae'n dilyn yr un traddodiad o greu caneuon gafaelgar sydd mor nodweddiadol o gerddoriaeth Maharishi.

Er nad yw'r gân yn un hir y maen bleserus iawn ac yn dangos elfennau o gerddoriaeth bync Gymraeg - mae yna gyffyrddiadau syn atgoffa rhywun o gerddoriaeth Ffa Coffi Pawb.

Creodd pobl ifainc o Gaerdydd a Phenrhys gerddoriaeth newydd ar gyfer ffilm gan Terry Chinn i nodi agor Canolfan y Celfyddydau Gweledol yng Nghaerdydd.

Mae'r gerddoriaeth yn uwch yn awr.) I mewn â ni, 'te.