Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gerfydd

gerfydd

Pwysai'r cŵn eu traed a'u hewinedd yn erbyn y grisiau wrth fy nhynnu i fyny gerfydd fy jersi." "Mae'n wyrth na ddrylliodd y defnydd wedi'r holl lusgo," ebe'i fab.

Gyda cheir yn hongian wrth ei gilydd gerfydd y tyllau lle'r arferai rhwd fod dydy'r heddlu ddim yn debyg o'ch stopio chi i ofyn oes gennych chi yr hyn sy'n cyfateb i MOT.

Gafaelodd yn Gary gerfydd ei wddf a'i wthio yn erbyn un o waliau'r toiled.

Atebodd Idris hi'n bendant ac yn derfynol nad oedd am ildio'r Afal Aur, ond nid cyn i'r Ffantasia ffug afael ynddo gerfydd ei fraich i ddwyn yr afal hud.

'Twt lol, Modryb,' meddai he fel pe bai hi'n siarad efo Huw pan oedd o'n dychmygu pethau, 'dim ond sŵn y gwynt.' Trodd ei modryb a'i llywio'n ôl i gyfeiriad ei stafell wely gerfydd ei hysgwyddau.

Hofran, gerfydd ei hochr, rywsut, roedd hi, gan gadw ryw fymryn o'u blaenau.

"Llithrodd hwnnw, a'm trôns, i ffwrdd wrth i Rex fy llusgo gerfydd fy jersi ar hyd y cae," atebodd ei dad.

Os buoch chi mewn tipyn o rigol yn ddiweddar, fe fydd y ser yn eich llusgo allan gerfydd eich clustie'r wythnos hon.

Mussolini yn cael ei ddal a'i saethu, a'i grogi gerfydd ei draed.

Yn cyd-bwyso â ffigur yr arlunydd mae ceiliog marw yn hongian gerfydd ei draed, fel arwr cwympiedig.