Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geriach

geriach

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Fesul tipyn yr oedd yr offer a'r geriach newydd yn dod.

I iard y cymerwyd ni, y tu ôl i un o strydoedd cefn Palembang, lle'r oedd tomen o hen haearn, a phob rhyw geriach.

Roedd un Llandudno fel stryd gefn o'i gymharu a hwn a ymestynnai o'r naill ochr i'r llall yn un lein ddillad hir, ddi-ben- draw gyda phob math o geriach yn rhyw fudr symud uwch ei ben.

Ar ganol dadlwytho'r geriach, tynnodd modur Americanaidd anferth i mewn.