Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gerllaw

gerllaw

Man ei eni oedd t^y o'r enw Plas y Person, yn y Gyffin, gerllaw Conwy, lle yr oed ei dad, Dafydd ap Gronw, yn giwrad ar y prys.

'Dydw i ddim yn gwybod mwy amdano na'r cerrig yma,' gan gyfeirio at bentwr o gerrig gerllaw.

Fe fu'r ddau hyn felly yn dadlau ynglŷn â darn o dir gerllaw'r harbwr a'r ddau yn dweud Fy eiddo i yw hwn.' Arweiniodd hyn at achos llys costus dros ben a'r Iarll a gafodd y dyfarniad, fel y gellid rhag-weld.

Gyda chymorth y bobl a safai gerllaw iddo arestiwyd y dyn a daflodd y bom.

Ffanffer ydyw sy'n gorffen yn ddisymwth, fel y gwnaeth, yn ôl y chwedl, ganrifoedd yn ôl pan laddwyd y trwmpedwr a oedd wrthi'n rhybuddio'r trigolion fod milwyr estron y Tartar gerllaw'r ddinas.

Cododd Elystan y corff eiddil yn dyner a'i roi i orffwys ar wely o beiswyn gerllaw'r pentwr coed wrth yr aelwyd.

Yn aml gwelir coeden o'r fath yn tyfu gerllaw ambell hen ffynnon iachusol.

Hêd y gwcw, gwna un siwrne, Hêd ymhell i'r dwyrain dir, Dal ar linell haul y bore, Ar dy aden dal yn hir; Gerllaw Tigris, er mor anodd, Dyro gân o gôl y gwynt, Yn yr anial, yno tawodd Un a ganodd lawer gynt.

Gall y plant chwarae'r gêmau ar eu pennau'u hunain ond bydd angen i oedolion/athrawon fod gerllaw i helpu darllen y wybodaeth ar y sgrin a darllen y stori.

Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg.

Gosodais y gwely i lawr yng nghanol y cwt a rhoddais f'enw arno, ac yna brysiais yn ôl i ofalu am y gwelyau eraill a nifer o baciau a safai gerllaw.

Wrth iddi gyrraedd y ddesg, a oedd gerllaw'r drws, agorodd y drysau a daeth corff mawr, blêr ond hapus i'r golwg.

Tyfodd yn gyflym iawn yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd dyffrynoedd yr afon ac ar y bryniau gerllaw.

Efallai mai fel hyn yr edrychai'r gaer ar Ben- dinas, gerllaw Aberystwyth, yn yr hen amser.

Ymhen rhyw ugain munud, eisteddai wrth fwrdd llwythog gydag Emrys a'i fam a'i chwaer Gwen, athrawes a oedd newydd gyrraedd adref o ysgol gerllaw.

Eithr, fel y dywed y Deon Church, yr oedd newid gerllaw.

Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.

Deallwyd yn y ddeunawfed ganrif fod Cowpog yn diogelu rhag y Frech Wen ac o ganlyniad i hyn rhoddwyd cynnwys pothelli Cowpog i mewn i fraich person a oedd wedi bod gerllaw rhywun â'r Frech Wen.

Mae'n dweud hefyd fod corff Owain wedi'i gludo i eglwys St Leger gerllaw i'w gladdu.

Roedden nhw i gyd yng ngwch hwylio'r teulu, gerllaw arfordir Norwy.

Yng nghastell ac eglwys gadeiriol Wawel gerllaw'r canol y cleddir brenhinoedd, beirdd, cerddorion ac enwogion eraill.

Taniodd y twll, ac yn eu dychryn rhuthrodd criw o ddefaid o'r cae gerllaw dros y wal bron ar gefn Evan Hughes.

Ymhen yr awr gofynnodd y management inni symud lawr i'r iard gerllaw ac aros tu ôl i'r rhwystrau yn gymysgedd o gyfryngwn a phobl leol yn yr haul.

Gyrru 'mlaen at y bont Wyddelig dros yr afon gerllaw i ffermdy gwag Llannerchirfon (Llannerch Yrfa ar y map OS).

Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.

Gyda llun potel o'r wisgi gerllaw gydag arwyddair y cwmni, When you know.

Hedfanodd tylluan heibio a sefyll ar bolyn gerllaw gan ddal ei phen ar un ochr i edrych yn ddoeth arno.

Ymhen ychydig daeth ar draws llysywen arall a chlymodd hon eto wrth y tennyn a'i gosod ar y cnwc gerllaw.

Fe fu'r ddau hyn felly yn dadlau ynglŷn â darn o dir gerllaw'r harbwr a'r ddau yn dweud "Fy eiddo i yw hwn." Arweiniodd hyn at achos llys costus dros ben a'r Iarll a gafodd y dyfarniad, fel y gellid rhag-weld.

Mae'r nant hon yn tarddu gerllaw pentref Llanddona.

Gorweddai yno'n syfrdan, ei grys am 'i ganol a'i din a'i geillie briw yn destun gwawd hiliol i ambell wag a eisteddai gerllaw yn y coridor.

Roedd Harvey, bytheiad Bassett y teulu yn pendwmpian gerllaw y stôf Rayburn yng nghegin y t a oedd gerllaw Launceston yng Nghernyw.

Ar unwaith anfonwyd cwch i aros yn y môr gerllaw'r clogwyn, a rhuthrodd ambiwlans drwy'r lonydd cul gyda thîm achub ynddi.

Cawsom sgwrs gyda gŵr lleol oedd yn rhedeg trol a cheffyl ac yn cario ymwelwyr i fyny'r mynydd caregog oedd gerllaw.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Ty Cendros.

Tân coed, a digon o goed gerllaw.

Yng nghongl isa'r maes gerllaw'r ffordd saif y golofn ar ffurf obelisg ac mae golwg unig a diymgeledd arni.

Beth bynnag, roedd y darlun yn un digon cyffrous ac eithafol i mi siarad ar y pwnc wrth nyrsys y ward a'r meddygon ifainc oedd gerllaw.

Aeth ati wedyn i adeiladu set i ŵr dall o gymydog a oedd yn byw gyda'i chwaer gerllaw.

Wrth symud ymlaen tuag at Gaergybi, mae modd gwylio fideo o adar y môr yn hedfan ac yn nythu o gwmpas clogwyni Ynys Lawd, gyda'r goleudy'n cadw golwg gerllaw.

Gerllaw, mae pentyrrau o gerrig, a'r rheini'n ymestyn i'r gorwel.

Llamodd ei galon wrth iddo glywed sŵn yn y goedlan gerllaw, dros y ffordd i'r fynwent.

Erbyn brecwast roedd e fel dyn yn cerdded ar draws rhaff uchel: 'i ddiwedd gerllaw ar y dde ac ar yr aswy.

Credid fod y pren yn amddiffyn y tir y mae arno neu'r cartref y bydd yn tyfu gerllaw iddo neu'r person fydd yn cario darn ohono yn ei boced.

Newydd orffen ei ginio yr oedd William Parry, un o'r cymdogion, ac yn croesi cae gerllaw Tyddyn Bach pan glywodd sŵn ergyd, ond ni chymerodd fawr o sylw o hynny.

Ceir olion mewn lluniau a dynnwyd o'r awyr sy'n dangos bod ŷd yn cael ei dyfu gerllaw'r ddinas yn amser y Brythoniaid.

Mae rhywrai gerllaw yn siarad amdanat ti, ac fe alle fynd mlaen am beth amser, felly paid rhoi cyfle i bobol ddweud pethau cas amdanat ti.

Er bod y gwersyll mewn ardal goediog braf, a bod yna gyfleusterau chwaraeon pur foethus gerllaw, buan y gwelsom nad ar gyfer pobl gyffredin Prâg yr oedd y rhain.

Mi fyddaf yn awchu'n eiddgar am, eu gweld yn garped glas yn gymysg a blaendwf y rhedyn ar rostir gerllaw fy nghartref.

Ar yr un pryd neidiodd i ben pentwr o gerrig a oedd gerllaw iddo.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Tŷ Cendros.

Agorodd rhagor o ddrysau gerllaw ac ymunodd teuluoedd eraill gyda nhw i gerdded yn rhibidrês ddistaw tua phrysurdeb y coridor mawr.