Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gerrig

gerrig

Eu ffurf a'u siâp yn ddinod a wal gerrig o flaen dau ohonynt yn gadarn batrymog.

'Dydw i ddim yn gwybod mwy amdano na'r cerrig yma,' gan gyfeirio at bentwr o gerrig gerllaw.

Llenwaist ein clustiau â seiniau'r greadigaeth - sisial ffrwd ar gerrig, trymru'r môr ar draeth, trydar yr adar, clec y daran ac amrywiol gynganeddion y gwynt.

Eisteddasom ar gerrig oedd bron o'r golwg dan orchudd o fwsog a chen llwyd wyrdd ac oren a bonion clustog Fair yn argoeli gwledd o liw yn yr haf.

Roedd hi wedi dewis dyrnaid o gerrig glas.

Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tþ efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.

Yr oedd yn debyg i amffitheatre enfawr, y gwaliau'n disgyn yn serth i grombil y mynydd, a'r llawr yn bentwr o gerrig, rhai ohonynt yn dwyn staen goch a melyn lle'r oedd nwyon cuddiedig Vesuvius wedi bod yn ffrwydro'n ddiweddar.

Mae Tre'r Ceiri, sydd ar safle o bum erw wedi'i hamgylchynu â muriau cedyrn o gerrig a phridd ar ffurf caer neu amddiffynfa.

EFFEITHIAU: Yn fras, gellir rhannu effeithiau fel a ganlyn:- llai o lygredd a thagfeydd traffig, llai o alw am gerrig mâl, gwell ansawdd bywyd yng nghefn gwlad a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gynllunio teithiau cludiant cyhoeddus i hybu canolfannau ymwybyddiaeth o'r amgylchedd.

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Fel plentyn 'roeddwn wrth fy modd yng nghwmni nhad, ac i Gerrig Duon yr awn ni efo fo bob cyfle gawn i, mynd ar ffrâm y beic ar draws 'camp Mona'.

Rhestr gynhwysfawr o gerrig hynafol wedi eu llythrennu, gyda 55 o ffotograffau.

Dim ond twmpath o hen gerrig, ynte?

TABERNACL Llongyfarchiadau Llongyfarchwn Geraint Evans, mab Mr a Mrs John Evans ar ei lwyddiant yn arholiad TGAU a dymunwn yn dda iddo i'r dyfodol Estynnwn hefyd ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i dri phar a fu'n dathlu yn ddiweddar gerrig milltir pwysig yn eu bywydau priodasol.

Dyrnaid o gerrig man, yn ol y rheolau, i guddio unrhyw annibendod yn y godre.

Rhowch gerrig ynddo i gadw'r dŵr yn fas a pheidiwch ag anghofio darparu dŵr glân pan fo angen.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Sylwer fod y graig Trias yma yn cynnwys darnau mawr o gerrig sy'n profi fod llif mawr o ddþr wedi gwthio'r cerrig yn sydyn ar draws yr anialwch sych i lawr ochr serth math o wadi.

Aethant at y gamfa gerrig a dechrau chwilio'r ffordd bridd garegog yn ofalus.

Gwelwch dystiolaeth o nerth y lefiathan wrth gerdded i fyny at geg y cwm, yn bonciau o gerrig, powlenni mawnoglyd rhyngddynt a marian terfynnol o gerrig dwad, graean a phridd o'r tu cefn i'r hwn y crewyd y llyn bas.

O dan ambell bentwr o gerrig, mae cyrff pedwar plentyn.

Mae'r llinellau o gerrig yn Karnag yn debyg i rengoedd o filwyr ac yn ôl un stori, byddin o filwyr paganaidd yn bygwth un o'r hen seintiau Celtaidd oeddent yn wreiddiol.

Adeiladwyd hen wal gerrig yn y gornel yma o'r oriel, yn amgylchynu ysgubau o ŷd a cherrig malu hynafol.

Mae yng nghreigiau Moel Hebog gerrig hardd iawn, o liwiau gwahanol.

Mae o wedi cael mwy o ferched nag wyt ti wedi eu gweld o gerrig beddau.' Teimlodd Dei y dillad yn cydio yn ei gorff oherwydd y chwys oer oedd yn ei gerdded.

Defnyddient lestri pridd, ond dalient i wneud eu hoffer o gerrig, tyfent gnydau bwyd a bugeilient anifeiliaid.

''Sna 'di o wahaniath mawr gynnoch chi, 'dwi am drio'i 'nioni hi am Gerrig Gleision, draws caea'.' 'A 'ngadal i yn fama, ar 'y maw?' 'Fedar y bus aros ylwch.

Dim byd ond wal gerrig!' Doedd hynny ddim yn hollol wir, achos roedd yna ffenestr fach fel agen saethu, oedd yn gadael rhyw lafn main o olau i mewn i'r 'stafell dywyll.

Hi oedd modd cludiant popeth o gerrig i lwyth o ddodrefn ar adeg mudo ym mân dyddynnod y mân bentrefi.

Fel roedd Dora Williams ar syrthio i gysgu lluchiodd rhywun ddyrnaid o fân gerrig yn erbyn y ffenestr.

Penodwyd pwyllgor i chwilio am gerrig a chafwyd rhai pwrpasol yn Nant y Felin a Chae yr Hendy ar dir Hafodymaidd a'r cornelau yng Nghraig Iwrchen.

'Fasa' hi'n rwbath gynnoch chi, Ifan Ifans, i fynd â'r hwch 'ma a finna' heibio i Gerrig Gleision?

'William, cariad,' pletiodd Mildred, ' sut yr ewch chi i Gerrig Gleision 'rawr yma o'r nos?' 'Wel, efo bus siwr dduwch.

Dro arall ant i ryw gylch o gerrig i sefyll am awr neu ddwy a llafar ganu'n uchel wedi eu gwisgo mewn gwyn a glas a gwyrdd.

Gadewch i ni dderbyn gwahoddiad yr Iesu ac ystyried degawdau'n gerrig milltir ar y ffordd i'r Gogoniant.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.

Mae yn edrych yn gul ar y copa, ond mae yno lecyn hollol wastad ar y pen; yn wir mi allasech wneud cae pêl- droed yno ond ichwi glirio ychydig o gerrig.

"rydw i wedi eu pasio nhw droeon ar fy nheithiau yma ac acw ac wedi diolch bob tro nad y fi fu raid llusgo'r fath lwyth o gerrig i fyny i'r rhostir.

Anferth o gerrig ithfaen yn sefyll ar eu cyllyll yn y ddaear yw'r rhain, wedi eu gosod yno drwy ymdrech ugeiniau neu gannoedd o lafurwyr, mae'n debyg.

Galwodd y sant am gymorth o'r nefoedd a thrwy rhyw wyrth, trowyd y milwyr yn rhengoedd o gerrig.

Mae'r dryw yn aml yn adeiladu'i nyth mewn wal gerrig wedi'i gorchuddio ag iorwg, ac mewn llwyni trwchus.

Aeth yn ei flaen yn ddidaro nes dod at garn fach o gerrig llwydion ac yna oedodd yn wyliadwrus a llygadrythu ar rywun a eisteddai fel delw yno.

Pe baech yn archwilio'r afon yn fanylach, byddech yn gweld bod unrhyw gerrig rhydd neu gerrig mân sy'n gorwedd yn y sianel hefyd yn grwn.

Gerllaw, mae pentyrrau o gerrig, a'r rheini'n ymestyn i'r gorwel.

O edrych oddi yno tua'r de fe welir y garnedd gerrig anferth ar ben Drygarn Fawr rhyw ddwy filltir i ffwrdd.

Ar ganiad bron, y prynhawn hwnnw, fe ddaeth llwyth o gerrig o'r twll i ____, a phenderfynodd yntau ofyn iddo'r peth cyntaf bore trannoeth.

Nid oes ond ychydig gerrig i nodi'r fan lle gynt y safai'r hen fythynnod: Bryn Brith, Ty'n-y-cefn, Pen-y-foel, Glan-llyn, Tan y Garth, Rhydloyw, a Thy'n Pant.

Ar yr un pryd neidiodd i ben pentwr o gerrig a oedd gerllaw iddo.

Ceir hanes gweithgareddau diweddaraf Mynydd Parys yn yr Oriel gydag eitemau o offer y mwynwyr a dillad arbennig y "copor ladis" (sef y merched a weithiai dan amodau dychrynllyd yn y gwaith) wedi eu gosod ymhlith samplau o gerrig mwynol o'r mynydd.