Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gert

gert

Mae'r defnyddiau'n cael eu dadlwytho gan y criw i gyd o gert fawr hen-ffasiwn sy'n rhedeg ar olwynion pren.

Anaml y byddai'r saer coed yn gwneud pâr o olwynion newydd heb y gert neu gambo yn gyfan, er bod eithriadau, mae'n wir.

Roedd pump o feibion ym Mhlas Gwyn ac un ferch a aned a dwy droed "clwb" ganddi, a byddai ganddi rhyw gert fach a mul yn ei thynnu, a nyrs hefo hi bob amser.

Byddai'r saer coed a'r gof yn rhannol gyfrifol am wneud olwyn, bydded olwyn gert neu olwyn i ferfa.

Wedyn, un noson, cafodd y gert bren ei dwyn a bu'n rhaid ailgodi'r garreg ar y gert newydd.

Diflannodd y gert yn y pellter a phrysurodd pawb ymlaen unwaith eto.

Reit o'r cychwyn bu'r arbrawf yn colli hygrededd gan fod y gert bren yn cael ei thynnu ar fatiau rwber wedi eu gosod ar y ffyrdd.