Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gesail

gesail

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Mae'r prif bwyslais ar fywyd y pentref a'r wlad yn hytrach na gwaith y ffariar, er ein bod wedi ei weld ambell dro gyda'i fraich, at ei gesail, ym mhen ôl rhyw fuwch !

'Ond William Huws bach mae 'ma hogan yn hwylio i gal babi.' Fel y camai William Huws dros gamfa i gae, a'r hwch hanner o dan ei gesail, gwaeddodd y gyrrwr eilwaith.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

Un ffordd o adnabod y cyflwr yw teimlo croen y bol neu'r gesail.

Symudodd Gethin ymlaen ychydig yn ofnus a chladdu ei ben yn saff dan gesail ei ffrind.

Yma mae gewin y rhew yn crafu'n genfigenllyd o dan gesail y barrug pan fyn yr eira