Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gist

gist

Rhoddodd ei gadw-mi-gei'n ôl yn ei le ar ben y gist ddreir a brysio i lawr i'r pasej, lle'r oedd Mam yn disgwyl amdano a Mali eisoes wedi'i chlymu yn y bygi.

Y tu ôl i'r drws mae dwy gist anferth.

O weld yr hwsmon mewn ystum gweddi ar ganol llawr y gegin cafodd Pyrs gryn sioc a llithrodd y gist bren drwy'i hafflau a drybowndio i'r llawr.

Gosododd Orig y cawell ar ben y gist de.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Gwaith blin oedd sgrifennu ar glawr rhychiog garw y gist, ond blinach fyth oedd cael allan beth a fynnai John ei ddweud wrth Marged.

Yna, wrth fwrdd mwy cyfleus na'r gist geirch sgrifennwn fy llythyrau a chael cryn hwyl wrth y gwaith.

Yr oedd wedi gosod popeth yn barod ar y gist geirch - pin ac inc a phapur a'r llythyr diwethaf a gawsai gan Marged.

Rholiodd y memrwn o'r diwedd yn ofalus a'i gadw yn y gist bren yng nghornel bellaf yr ogof.

'Roedd Debora wedi codi, ac yn awr 'roedd hi'n agor drôr uchaf y gist ddillad.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a žyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Dannedd miniog y llygoden yw unig allwedd i'r gist, a'r wobr yw'r gneuen werthchweil yng nghnewyllyn y garreg.