Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glanio

glanio

CEMAES - ARWYR NORMANDY: Dewiswyd traeth Cemaes yn un o'r ychydig drwy Gymru i fod yn fan cyfarfod i gofio am y glanio beiddgar hwnnw yn Normandy hanner can mlynedd yn ol.

Ond fe newidiais fy meddwl pan ddaeth yn adeg imi sefyll gyda'm ffrindiau yn y ciw yn syth ar ol glanio ym maes awyr Moscow.

Iawn, sdim eisiau glanio yng nghanol mor o Seisnigrwydd ar nos Calan!" "Wel, nac oes wrth gwrs!" Ar ol dau wydriad bach arall (am ddim) i godi ychydig mwy ar y galon - rhaid oedd ffarwelio.

Gall peilot gadw'i lwc drwy wagio'i bocedi ar y ddaear ar ôl glanio fel pe bai'n ail-gyflwyno aberth o ddiolch am gael siwrnai ddiogel.

Pe bai o'n medru glanio gallai gael lluniau o'r wagenni a'r rheiliau o'r tu mewn i'r ogof.

Neil Armstrong yn glanio ar y lleuad.

Drannoeth ar ôl glanio yn Dubai, daeth Salim ataf gan ddweud wrthyf ei fod am ddangos golygfa ryfedd imi.

Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.

Cyrch y 'Dambusters'. Milwyr y Cynghreiriaid yn glanio yn Sisili.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Llong ofod yn glanio ar y blaned Mawrth.

Erbyn hyn roedd y jetiau wedi glanio a thrwy'r dail gallai Elen weld y llinyn truenus o garcharorion yn cael eu gwthio tua giatau'r gwersyll newydd a oedd wedi'i agor ar lannau'r llyn.

Rudolf Hess, dirprwy Hitler, yn glanio yn Yr Alban.

Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhrâg, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

A gan fod y tywydd yn fwll, roedd dau neu dri o bryfaid mawr Cumberland yn glanio ac yn hedfan i ffwrdd fel awyrennau yr RAF oddi ar y brechdanau - os medrai neb eu galw nhw'n hyn.

Mi freuddwydiais neithiwr fod y Tywysog Bach wedi glanio ar y blaned lle roedd Man Friday yn byw.

Ar ôl glanio yn nhref Orumiyeh, trodd y capten ato a gofyn os oedd o'n siwr ei fod am aros.

Yr oedd hyn ym mhen ychydig oriau ar ôl glanio yn New York.

Bu'n driw i'w air a chyn hir roeddem yn glanio ym Muscat, prifddinas Oman.

Milwyr y Cynghreiriaid yn glanio yn Sisili.

Yn aml mae'r cwmnïau yma yn defnyddio meysydd awyr llai blaenllaw, er enghraifft hedfanodd yr athrawes i Prestwick ger Glasgow ac mae ffleit Ryanair i Baris yn glanio yn Beauvais sydd tua 80 km i'r gogledd o'r brifddinas.

Hysbyseb ddigon hurt a dweud y gwir o- Volvo yn disgyn o ben adeilad uchel a glanio ar ryw gwdyn mawr meddal.

Sawl blwyddyn yn ôl bu yn y newyddion o ganlyniad i'w ymdrechion ofer i gyrraedd Awstralia mewn cerbyd glanio tir a môr.

Amelia Earhart yn glanio awyren fôr, 'Friendship', ym Mhorth Tywyn.

Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.

Pan ofynnodd Powell beth achosodd i'r awyren orfod glanio, daeth yr ateb sotto voce gan Gareth, "Sgido yn yr awyr." a'r prifathro'n methu a deall pam fod gweddill y dosbarth yn eu dyblau.

Glanio, eich troed ar y ddaear, ton y gynhesrwydd yn dod trosoch, a rydach chi'n iawn, yn iawn braf...

Tyrd,' meddai Abdwl unwaith eto, ac aeth Glyn ar eu holau gan ddringo i gefn Land Rover a oedd yn disgwyl wrth lidiart y cae glanio.

Faint a fynnir o ddeunydd am Loegr ac Ewrop þ Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau a'r Cymry druan yn llawenhau o feddwl fod Tywysog o Gymro yn mynd i'w lordio hi tua Llundain yna ac yn mynd i ddod â'r mil blynyddoedd i ben.

Hongiai ei wallt yn rhacs llwyd dros ei glustiau, ond roedd cylch moel ar dop ei ben, fel mynach, neu fel petai UFO wedi glanio yno rhywbryd ac wedi serio'r tyfiant ar ei gorun.

"Cofia fod gennym siwrnai faith ar ôl glanio!" Cefais drafferth i gerdded ar ganol y llwybr rhwng y cabanau.

Y llong bananas olaf o India'r Gorllewin yn glanio yn Y Barri.

Dechreuodd y pysgod frathu ac ymhen dim roedd Bleddyn wedi glanio brithyll braf.

Fe gymrodd hi ryw dridiau ar ôl glanio yn Ankara i groesi Twrci a symud o un ganolfan filwrol i'r llall cyn y gallwn gael hofrennydd i'r mynyddoedd.

Gwelwyd nifer o ymwelwyr rhyfedd a threisgar hefyd yn glanio ar draethau Ynys Môn yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

Heb y dechnoleg newydd hon mae'n eithaf sicr na fyddai dyn wedi glanio ar y lleuad ac na fyddai ein dealltwriaeth o'r bydysawd, y gofod a'n planed ni ein hunain, yn agos mor eang.

Wrth i Lili chwarae mae Tedi'n cael ei lusgo i ffwrdd ar gortyn barcud ac yn glanio mewn coedwig - ac yn mynd ar goll.

Y rocedi V1 a V2 cyntaf yn glanio ar Loegr.

Beth bynnag, dyma gyrraedd Llanfairfechan, ac roedd y lle mor ddiarth i mi â phe bawn i wedi glanio yn China.

Cyn gynted ag yr oedden nhw wedi glanio dechreuodd Archie ddatod y strapiau.

Yn wahanol i Gymru grasboeth, tymor haf gwlyb a gafodd y Tyrol, a dyma ni, heb unrhyw swyn gyfaredd, wedi glanio i ganol wythnos brafiaf yr haf a chostreli haul Maldwyn yn ein bagiau.