Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glasurol

glasurol

Weithiau gwelir pethau a allai fod yn gyfeiriadau at leynddiaeth glasurol neu yn atsiniau ohoni, heb fawr o arwyddocâd ehangach efallai.

Yr unig feirdd a llenorion i heddu ei sylw yw'r rheiny sydd un ai'n cyfranogi o'r un weledigaeth Gatholig, glasurol ag ef ei hun, neu, fel Andre Gide yn adweithio'n hunan-ymwybodol yn ei herbyn.

"Weithiau," meddai, "mae recordio cerddoriaeth glasurol yn cymryd naid i'r dyfodol."

Roedd yn gyfarwydd â llenyddiaeth glasurol Gymraeg a Saesneg, ac roedd y Beibl i gyd ar flaenau'i fysedd.

Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.

Peth cyffredin iawn yn Lloegr, hyd yn oed ymysg gwŷr llengar, fu adweithio yn erbyn addysg glasurol, a diystyru llenyddiaeth Ladin a Groeg fel rhwybeth sych a phendantaidd na allai byth fod yn berthnasol i fywyd cyfoes.

Mewn gair, yr oedd Dyneiddiaeth glasurol yn ogwydd crefyddol a enynnai frwdfrydedd optimistaidd.

Dyma ddeuoliaeth glasurol Methodistiaeth Calfinaidd - ffydd emosiynol oedd yn ffynnu o'r galon, ond ffydd oedd â phrofion ohoni i'w canfod gan reswm ym mhob man yn y byd allanol, unwaith yr oedd llygad y galon wedi'i hagor i'w gweld.

Wrth i ni edrych ar waith y rhan fwyaf o feirdd Cymraeg trwy'r oesoedd, ni fyddwn yn gweld mwy nag ychydig iawn o olion i ddangos iddynt gael addysg glasurol, ac iddynt fod yn ymwybodol o'r traddodiad Groeg a Rhufeinig mewn llynyddiaeth a barddoniaeth.

Honnir mai digwyddiad Canwr y Byd Caerdydd yw'r gystadleuaeth gerddorol glasurol sy'n cael ei gwylio fwyaf yn y byd.

Fel y cawn weld, mae agweddau'r beirdd a'r llenorion Cymraeg at y clasuron yn amrywio'n aruthrol, ond prin iawn y gwelir un ohonynt yn methu ag ymateb o gwbl i lenyddiaeth glasurol.

Mae'n wir fod y weinyddiaeth addysg eisiau i blant gael eu hyfforddi mewn llenyddiaeth glasurol.

Gellid disgwyl y byddai'n dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth glasurol - cyfoes glasurol - ond clasurol, serch hynny.

Nid amherthnasol yn y cyd-destun yma yw sôn am lyfr T Hudson- Williams, Y Groegiaid Gynt, er nad yw'r awdur yn honni fod y gyfrol honno yn fwy na llyfr rhagarweiniol, a ysgrifennwyd gyda'r amcan o roi rhyw syniad am gymeriad a diwylliant y Groegiaid i ddarllenwyr heb unrhyw gefndir o addysg glasurol.

Honnir mai digwyddiad Canwr y Byd Caerdydd yw'r gystadleuaeth gerddorol glasurol syn cael ei gwylio fwyaf yn y byd.

Mae'r diwydiant biotechnoleg yn enghraifft glasurol o hyn.

Rowland Hughes, y ddau fel ei gilydd, am DM Jones: ei fod yn hanfod o Landeilo, fod ei fam yn Saesnes, ei fod wedi ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri ac wedi caei addysg glasurol dda yno ond heb ddim hyfforddiant yn y Gymraeg, ac mai yn Rhydychen wrth ddarllen yn ei oriau hamdden yr oedd wedi dod i werthfawrogi cyfoeth iaith a llenyddiaeth Cymru ac i ymserchu cymaint yn nhelynegion Ceiriog fel yr aeth ati i'w cyfieithu i'r Saesneg' Mae adroddiad OM Edwards o hanes dechrau'r Gymdeithas ychydig yn wahanol.

Cyrhaeddodd yr albwm ddwy siart yr un pryd, y siart bop a'r siart glasurol.

Y Tsieciaid yw'r enghraifft glasurol o'r broses hon ar waith.

Mae persarniaeth ôl glasurol yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn berffaith i naws gythryblus y stori.

Roedd y ddau wrth eu bodd gan eu bod yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol ac ar y nos Wener cafodd y ddau noson i'w chofio - a mwy fyth o achos cofio pan ddaethant adref a chanfod fod lladron wedi dwyn popeth oedd o werth yn y tū...

Ni ellir dweud fod y Cymry wedi bod yn brin o addysg glasurol, ac eithrio efallai yn y deugain mlynedd diwethaf hyn.

Mewn gwirionedd, lluniodd awdl gywrain ryfeddol, un o'r awdlau buddugol cywreiniaf erioed, ac awdl glasurol a oedd yn efelychu patrymau Beirdd yr Uchelwyr.

"Os rhywbeth, mae'n well gen i gerddoriaeth glasurol." Mae ei atgofion o wrando ar gyngherddau mawr y byd ar y radio yng nghwmni ei dad yn y Felinheli mor fyw ag erioed.

Ni ellid cynnal y statws bonheddig heb addysg, a honno'n addysg glasurol.

Sonnid amdano yn Arabeg glasurol llwyth y gof, ac mewn Berbereg hynafol a brodorol hyd eithafoedd y Sahara.

Ychydig yn ddiweddarach na phapur yr Athro W J Gruffydd fe ymddangosodd papur gan yr Athro Lewis Jones, 'The Literary Relationships of Dafydd ap Gwilym', lle pwysleisir drachefn ddylanwad y Trwbadwriaid ar Ddafydd ap Gwilym ond yma pwysleisir ef ochr yn ochr â dylanwad barddoniaeth Ladin Glasurol a barddoniaeth Ladin yr Ysgolheigion Crwydrad.