Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glaswellt

glaswellt

Y tro nesaf y byddwch yn yr ardd, gosodwch ddarn o hen gardbord ar y glaswellt, a'i adael yno am rai dyddiau.

Yn y lawnt parhaol torrwch y glaswellt yn is drwy ostwng llafnau'r peiriant torri.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Beth sy'n digwydd i'r glaswellt?

Does dim yn y ddinas, dim ond tywod - dim blodau, dim glaswellt na dim byd arall.

Hepgorir manylion fel dail, rhisgl, llafn glaswellt er mwyn rhoi mwy o rym i ffurfiau sylfaenol y cyfansoddiad.

Yna ailfeddwl a'i ddodi yn ôl ar y glaswellt, a dychwelyd i'r fynwent wrth yr hen eglwys.

Medrai eu harogli wrth iddo orwedd yn ôl ar y glaswellt a chau ei lygaid yn dynn.

Rhoddir golwg orffenedig i'r gwaith os cesglir y toriadau glaswellt ym mlwch y peiriant.

Pwyntiai'i bys bach tew at y glaswellt, a phwysai'n galed yn erbyn y gwregys, 'Allan.' mynndai.

Cnydau o bob math yw bwyd cwningod, cnydau megis glaswellt, ydau, rwdins, moron a dail llysiau, ond yn y gaeaf fe wnânt ddifrod mawr ar goed yn ogystal trwy ddirisglo'r pren ac ymborthi ar y rhisgl.

Pesychais, a phoeri llond ceg o fwd a glaswellt wrth i mi bwyso ar un penelin.

Daethom ar draws rhwy barc bychan lle y câi hen bobl fynd i eistedd yn yr haul - 'roedd y glaswellt wedi tyfu'n hir, a'r Dant-y-Llew yn drwch.

Cododd hyn wrth gwrs am fod tywydd mwyn y gaeaf wedi cynhyrchu mwy o dyfiant glaswellt o lawer nag sy'n arferol.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

Mae'r chwynladdwr dewisol yn lladd chwyn heb niweidio'r glaswellt.

ym mustl chwerwedd, yn pori yngwerglodd y cythrael, yn cael ei lithio gan chwant, yn pori glaswellt .

Gellir bwydo'r glaswellt a lladd chwyn ar yr un taeniad trwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd cemegol sy'n cynnwys gwrtaith a chwynladdwr yn yr un cymysgedd.

Ni rydd hyn gyfle i'r glaswellt orwedd mewn un cyfeiriad arbennig ac felly lleiheir y posibilrwydd i'r gweiriach cras ddatblygu.

bydd glaswellt dros fy llwybrau i gyd Cyn delwyf i Gymru'n ôl."

Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.