Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glawog

glawog

Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i fwa mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.

Ebrill cynnes a Mai glawog - bydd y rhyg yn tyfu fel coed.

Medi sych, hydref glawog.

Y drwg, fodd bynnag, oedd fod y jobsus yn cynyddu mewn nifar, a'r diwrnod glawog yn mynd i orfod bod yn debycach i ddilyw i fedru eu cyflawni i gyd!

Mawrth glawog, Mehefin glawog hefyd.

Ebrill glawog yn dda i ffrwythau.

Mi 'roeddwn wedi cyfarfod â nhw i gyd, bob un wan jac, ar ddiwrnod glawog yng Ngherrig Duon.

Ond jobsus wedi eu cadw at rhyw dd'wrnod glawog oeddan nhw.

Y lle gwlypa' yn y byd yw Cherrapunjee, ac fe elwir y lle yn 'Drigle'r Cymylau'; y gwir yw ei fod e'n debyg iawn i Abercrâf ar ddiwrnod glawog.