Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glew

glew

'Ym mhob gwlad y megir glew', medd yr hen ddihareb, a thristach na thristwch yw gweld dynion disglair yn ein gadael a hwythau ym mlodau eu dyddiau.

Byddai hanes cyflawn yn gorfod rhoi lle i'r gweithredu uniongyrchol, wedi i'r mesur fynd trwy'r Senedd, gan ychydig o genedlaetholwyr glew a garcharwyd mewn canlyniad, ond nid y Blaid a drefnodd hyn er inni drefnu'r amddiffyniad.

Wrth edrych yn ôl ar flynyddoedd cynnar Plaid Cymru fe'n hargyhoeddir ar unwaith mai gwyr glew a gwragedd dewr a'i sylfaenodd, H. R. Jones, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. J. Williams, J. E. Jones, Kate Roberts; amser a ballai i mi fynegi am J. P. Davies, Ben Owen, Ambrose Bebb, Mai Roberts, Cassie Davies ac eraill, y rhai a roddodd fudiad rhyddid Cymru ar sylfaen ddiogel.

Faint o werin Cymru sydd erbyn heddiw, wedi naw mis o streic gan yr 'arwyr' hyn yn eu gweld fel 'Arwyr glew erwau'r glo'?

Ple ydoedd dros drefnu teyrnas mewn ffordd na wadai i bobol eu hawl i weithio er cynnal corff ac enaid ac na ddibrisiai mohonynt yn eu golwg eu hunain," meddai Arwr Glew Erwau'r Glo.

ARWYR GLEW ERWAU'R GLO 'Caner, a rhodder iddo - glod dibrin Y werin a'i caro: Nydder y mawl a haeddo I arwr glew erwau'r glo.'

Dyna un cwestiwn sy'n cael ei godi yn llyfr yr Athro Hywel Teifi Edwards, Arwr Glew Erwau'r Glo.