Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glewt

glewt

'Doedd Gwyn ddim am iselhau ei hun a dyma roi'r ffôn yn glewt yn ei le.

Yna, syrthiodd yn glewt i'r llawr, a'r ddau'n rhedeg nerth eu traed i lawr y grisiau.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.

Dychrynodd hithau gymaint nes iddi syrthio'n glewt o'r gadair.