Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glocsen

glocsen

Y Fari Lwyd oedd ein ceffyl ni, - digon dychrynllyd i gael gwared ag unrhyw ysbryd aflan (Gweler The Hobby Horse and other Animal Masks - Violet Alford.) Dawns y Glocsen wrth gwrs yw'r unig draddodiad dawnsio di-dor sydd gennym yng Nghymru.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Gosgeiddrwydd a threfniant ysblennydd ein cerddorion ym Meillionen, lliw ac ysgafnder Dawns Flodau a grym dynion Dawns y Glocsen.

Fe gyflwynon ni'r dawnsfeydd canlynol; Meillionen, Dawns Flodau Nantgarw a Dawns y Glocsen.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

Yn Llangollen edrych am burdeb a dilysrwydd y traddodiad wna'r beirniaid, oedd yn bobol wedi'u trwytho yn nhraddodiadau gwerin a dawns gwledydd y byd, a gan mai saith o'r math yma o wyrda oedd yn tafoli yn Mallorca, penderfynwyd cadw at y ddwy ddawns oedd wedi ennill coron Llangollen inni, sef 'Cadi Ha' a 'Dawns y Glocsen' fel ein dawnsfeydd yn y gystadleuaeth.