Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glofaol

glofaol

Rhydwen Willams a roddodd inni bortread o'r cymunedau glofaol yn ei bryddest fuddugol 'Ffynhonnau' yn Eisteddfod Abertawe ym 1964.

Daethant â'u cyfeillgarwch i helpu mam i ymsefydlu mewn pentref glofaol a oedd yn gwbl ddieithr iddi.

Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.

Ac yntau o gefndir glofaol ei hun y mae'r ffaith fod gan lenyddiaeth Gymraeg gyn lleied i'w ddweud am ddiwylllant y glowr yn achos loes arbennig i Hywel Teifi.

Y dystiolaeth fwyaf ysgubol a ddyfynnwyd oedd sylwadau'r Parchedig John Griffith, Rheithor Aberdâr, am yr ardaloedd glofaol a diwydiannol:

Gwyddai Ieuan Gwynedd fod nifer o offeiriaid eglwysig yn cribo i lawes Lingen, Symons a Johnson, ac er ei fod yn fawr ei ofid yn sgil marwolaeth ei wraig a'i fab, aeth ati i gasglu ystadegau ynglŷn ag enwadau crefyddol yr ardaloedd glofaol.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Yn y gerdd hon 'roedd Gwilym R. Tilsley yn clodfori'r moderneiddio a fu ar y pyllau, ond 'doedd dim awgrym ynddi fod y diwydiant glofaol ar fin wynebu cyfnod maith o newidiadau a phroblemau a fyddai'n arwain yn y pen draw at dranc y diwydiant.

Danfonwyd milwyr i gymoedd glofaol Deheudir Cymru i gadw trefn a chreu ofn - penderfyniad gormesol a gysylltir yn arbennig a Winston Churchill.

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Tilsley yn clodfori'r moderneiddio a fu ar y pyllau, ond 'doedd dim awgrym ynddi fod y diwydiant glofaol ar fin wynebu cyfnod maith o newidiadau a phroblemau a fyddai'n arwain yn y pen draw at dranc y diwydiant.