Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gloyw

gloyw

@Rydym yn gwneud ffitiadau dur gloyw gan ddefnyddio dur a fewnforiwyd o Sweden!

Deuthum o dan fy maich dirgel o boen yn ara' deg dros foroedd anwadal i Dde'r Iwerydd, mewn bad anferth a oedd yn ysbyty gloyw, nes cyr'aeddyd cyrrau moel a gerwin yr ynysoedd amddifad .

Cofiaf un flwyddyn mai "Fflat Huw Puw% oedd y gân a llwyddodd i gael cwch go iawn i ni ar y llwyfan, a ninnau'n gwisgo cap pig gloyw a souwester.

A'i chefn yn erbyn y llyw mawr gloyw lled-orweddai merch ifanc mewn siorts byr yn torheulo gyda'i llygaid ynghau.

Ar y bore Sul, cafwyd cyfle am drip sydyn i weld y gromlech ym Mhentre Ifan - unwaith yn rhagor o dan arweiniad gloyw Lyn Lewis Dafis.

Aeth i mewn i siop a phrynu'r ddrutaf a'r fwyaf gloyw a oedd yno.

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

Yn y parc bychan prydferth ynghanol y ddinas, roedd cerrig bedd unwaith eto - talpiau o farmor gloyw i gofio'r pedwar a fu farw yn ystod eu hymrafael hwythau.

Pan symudodd Ifan Parry o Eil o Man i Benrhos, ty bychan ar ben lon Cerrigcamog, dyma John Rowlans yn cyfeirio at Ifan Parry fel 'Arglwydd y Penrhos'.Dyna Catrin Owan, Lon Las gwraig John Owan a wisgai gap pig gloyw bob amser, er mwyn i bawb wybod mai enjiniar oedd o ar y mor, ac nid llongwr.

Ac ar ben y cwbl, gwnaethant gyfraniad at feithrin yng Nghymru draddodiad gloyw o ddarllen ac adrodd cyhoeddus a oedd yn ddeallus, yn gywir a phwysleisiol.

Awdl ragorol oedd yr awdl fuddugol, a cheir delweddu gwych a chynganeddu gloyw ynddi.

Cariai un dyn gangen o Fedwen Arian wedi ei haddurno â rhubannau a chreiriau arian gloyw.