Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glwyfau

glwyfau

Gallai ystyried y fath bethau arwain at ddatgan euogrwydd, at ailagor hen glwyfau, at addasu poenus.

Pethau'n mynd i'r gwellt heb i mi wneud dim byd i frwydro yn erbyn hynny; dim ond gorwedd yn ddiymadferth o dan ergydion creulon y tawelwch a adawai glwyfau a chleisiau newydd o ddieithrwch bob eiliad.

'Roedd y bobl hyn yn dibynnu ar ofergoelion, ac arferent werthu moddion i wella pob math o anhwylder, o ddafadennau i glwyfau drwg iawn.

Yn ei benbleth i geisio rhyw lun o weld y ffordd, a than ei glwyfau, aeth Ifan Paraffîn yn fwy o dincar fyth.

Agorodd pob un o glwyfau'r hen sgarmes, er eu bod wedi gwella mor llwyr ddeugain mlynedd yn ôl.

Er lleied yw Plaid Cymru, ac er y gall hi gael mwy na'i rhan o glwyfau a siomedigaethau politicaidd, y mae'n anninistriadwy oblegid ei bod wedi ei hadeiladu ar graig teyrngarwch i'r genedl Gymreig.