Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glybiau

glybiau

Mae yna glybiau house, drum'n bass, garage a trance i enwi dim ond rhai, a dim ond rwan yr ydym ni fel Cymry yn dechrau dod yn gyfarwydd â rhai o'r enghreifftiau hyn yn ein mamiaith.

Synnwn i ddim na fydd Earnshaw, sy'n 19 oed, yn cael cynigion i symud i glybiau mewn adrannau uwch.

Wedi cyffro Cwpan Heineken mae'r prif glybiau yn ôl yng Nghynghrair Cymru a'r Alban yfory.

'Mae'n bwysig iawn i glybiau yng Nghynghrair Cymru eu bod yn darganfod doniau ifanc yn lleol.

Fel gyda fersiwn Llwybr Llaethog o Llanrwst, mae Karamo gan Anweledig bellach yn addas ar gyfer unrhyw un o glybiau mawr Prydain.

Ar yr un trywydd yr ydym wedi trefnu cwis chwaraeon rhwng holl glybiau chwaraeon yr ardal a rhaglen adloniant amrywiol mewn nifer o glybiau.

Ar hyn o bryd nifer afrwydd o glybiau fydd yn y cystadlaethau hynny y tymor nesa - ond fe allai hynny newid ddechrau tymor 2002.

Yn ôl llywydd Stade Français mae'n warthus a falle bydd raid i glybiau Ffrainc osod telerau cyn cymryd rhan y flwyddyn nesaf.

Yng Nghaerdydd neithiwr, 'roedd Undeb Rygbi Cymru'n cyfarfod i drafod, ymysg pethau eraill, strwythur cystadlaethau'r tymor nesa, nifer y clybiau fydd yn y cystadleuthau hynny, a'r cwestiwn o glybiau'n esgyn a disgyn i'r Prif Gynghreiriau y tymor ar ôl nesa.

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Buan iawn hefyd y gwelwyd ugain o glybiau yn Sir Gaernarfon.

Mae trip i Rhyl wedi ei drefnu mis Tachwedd i fynd i chwarae bowlio deg pin a cwesyr, ac yna mis Rhagfyr mae disgo yn yr Octagon i Glybiau Ieuenctid Gwynedd wedi ei drefnu.

Yn yr un modd, byddai cau hanner dwsin o gapeli yn Henaduriaeth Llyn ac Eifionydd yn fwy perthnasol na chau hanner dwsin o neuaddau bingo neu glybiau yfed yng nghymoedd diwydiannol y De.

Mae prif glybiau Cymru'n cyfarfod a'r Undeb eto heno i gytuno ar amserlen gemau'r tymor nesa.

Wrth gwrs, mae yna feddwi a thrais ar y stryd gyda'r nos a sŵn miwsig rêf yn atseinio o glybiau nos yn oriau mân y bore - yn enwedig adeg gemau rygbi cartre' - ond, yn ôl pobol leol, mae pethau yn waeth yn Abertawe a Llanelli.

Mae'n bosib y bydd rhai o glybiau llai Cymru yn wynebu cewri pêl-droed Ewrop yn y dyfodol agos.

Yn rownd gynta Cwpan yr FA bydd pob un o glybiau Cymru'n chwarae gwrthwynebwyr o Ail Adran Cynghrair y Nationwide.

Cawsom gyfle i gyfarfod aelodau o glybiau eraill.

Daw'r wybodaeth ynglŷn â pha glybiau fydd yn creu hanes trwy ffurfio Cynghrair Cenedlaethol cynta Cymru yn fuan.

Does dim dwywaith mai tlotach fydd y Cynghrair heb rai o brif glybiau'r genedl.

Mae'n cilio oddi wrth glybiau gwyllt y ddinas ac yn cyfaddef mai creadures digon cartrefol yw hi.

Bydd y clybiau, heddiw, yn clywed penderfyniad terfynol Undeb Rygbi Cymru ynglyn â'r nifer o glybiau o Gymru fydd yn y Cynghrair Celtaidd y tymro nesa.

Cafodd Clwb Pêl Droed Porthmadog ei ffurfio yn 1884, sydd yn eu gwneud yn un o glybiau hynaf Cymru.

Ond penwythnos siomedig fu hi'n gyffredinol i glybiau Cymru yng Nghwpan Lloegr.

'Rydyn ni wedi wneud o o'r blaen mewn nifer o gemau a mae llawer iawn o glybiau wedi gwneud hynny yn ein herbyn ni.