Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glynai

glynai

Glynai'r cynhyrchiad yn dynn at y testun gwreiddiol.

Roedd hi wedi goroesi pob helynt a glynai'r genedl wrthi o hyd am mai hi oedd 'iaith ein llên', 'iaith ein cartref' ac 'iaith ein crefydd'.

Dilynai Ernest gwt yr helsmon, a glynai Harri orau y gallai wrth ei arweinydd.

Glynai Williams yn dyn wrth ddatganiadau clasurol yr Eglwys Fore, a bwysleisiai fod Iesu Grist yn wir Dduw ac yn wir ddyn.

Glynai ei thraed ynddo.

Glynai Modryb Lisi wrthyf fel gelen, er i mi awgrymu'n gynnil y byddwn yn ei chyfarfod hi a Miss Lloyd yn nes ymlaen yn y lle a'r lle ar yr adeg a'r adeg.

Glynai ychydig gudynnau o wallt gwyn sych i groen ei ben, fel blodau gwyllt yn ymladd am eu heinioes ar graig foel.