Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

glywodd

glywodd

Roedd y Wraig wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall ar ga'l ac fel yr oedd Ifor ar roi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed!

Y mae pennod gyfareddol Dr Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn yn ymdrech ddisglair i wneud hynny a daw'n agos at lwyddo pan yw'n trafod pregethwyr a glywodd ei hun.

Ond fe wnaeth hi wella a phan glywodd hi na fuasai hi'n medru cerdded ar ei phen ei hun am ddwy flynedd daliodd i fynd i'r ysgol yn y boreau ac i gael ffisiotherapi yn y prynhawniau.

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Pan glywodd hi'r neges, feiddiai hi ddim cri%o gan fod y milwyr yn ei gwylio.

Gan weled y gwelodd eu cystudd, a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywodd.

Pan glywodd y Pictiaid yr halelwia'n diasbedain tybiasant fod llu o Gymry arfog yn barod am eu gwaed.

Pan glywodd fy nhad hyn, dywedodd, 'Mi fydd yn difaru ar hyd 'i oes.' Ond nid felly y bu hi.

Nid wyf am geisio ail-ddweud hanes 'Fel Hyn y Bu', gan fod y gerdd yn ei ddweud ef yn gryno ddigon, a chan y bydd y rhai a glywodd Waldo'n ei adrodd yn helaethach, yn hynod anfodlon ar unrhyw ail ferwad a geir gennyf i, er ei bod yn weddus nodi fy mod innau'n ei gofio'n ychwanegu ambell damaid apocryffaidd, megis y sôn fod y brigâd tân wedi gorfod dod allan gyda'r heddlu i chwilio am y sbi%wr.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Jenkins mai cyfaill iddo a glywodd yr 'ymgom hynod fer' rhwng y 'Doctor o Faconia' a'r Cenedlaetholwr o Gymro, a digon posib' mai Bebb ei hun neu Saunders Lewis oedd y Cenedlaetholwr.

Cychwynnodd redeg ar flaenau'i thraed dros lawr y gegin, ond rhewodd mewn braw pan glywodd floedd awdurdodol o'r tu allan.

Er hynny, pan oedd o'n teimlo'n fwy digalon nag erioed o'r blaen, fe glywodd lais ei dad yn ei ddychymyg.

Gwylltiodd Idris pan glywodd a gweld y llanast.

Yn ystod cyfnod o chwarter canrif o ymwneud â seiciatreg, ychydig iawn a glywodd yr adolygydd yma am chwedlonaieth Geltaidd o enau neu ysgrifbin seiciatryddion neu seicolegwryr.

Ymgollodd yng ngheinder sawl sylw diwinyddol a'r syniadau diweddaraf a glywodd gan hwn a'r llall ag arall ar eu ffordd i Enlli.

Fe glywais i beth ddywedodd o ar ei wely angau, fe glywodd fy mam a nhad a'm modryb i hefyd, ac yr oedden ni i gyd yn iawn.

Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.

Pwy a'i hanghofia ef byth, a glywodd Waldo'n adrodd y saga yna am 'Fel Hyn y Bu', yn arbennig yn y dyddiau gwyn hynny cyn iddo gael dim dannedd gosod?

Gyda llaw, wyt ti'n hoffi bwyd ysbyty?' Ac yna, yn ddisymwth, roedd y cyfarfod ar ben a Dei wedi cael mis o amser i gyflawni'r tasgau, ac wedi cael ei siarsio ar boen ei fywyd i gadw'r cyfan a welodd ac a glywodd yn gyfrinach.

Pan glywodd yr Yswain yr hanes, teimlai yn dost dros Harri, a diflasodd gryn lawer ar bleser y dydd iddo.

mae'n gallu canu'r caneuon melysa a glywodd neb eriôd...

Pan glywodd yr Iesu fod Lasarus wedi marw, 'roedd e'n awyddus iawn i fynd 'nôl at y teulu bach ym Methania, Mair a Martha.

A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.

safodd yn syth pan glywodd lais o rywle : sut lais, neu beth a ddwedai, ni wyddai.

Pan glywodd fy mrawd-yng-nghyfraith y newydd am ei farwolaeth ar y teledu dywedodd wrth ei wraig fod "y dyn 'na a arferai gadw gôl i Amlwch wedi marw." Dyna'n union y math o stori y byddai BLJ wrth ei fodd yn ei chlywed, ac wrth ei fodd wedyn yn ei hailadrodd.

Newydd orffen ei ginio yr oedd William Parry, un o'r cymdogion, ac yn croesi cae gerllaw Tyddyn Bach pan glywodd sŵn ergyd, ond ni chymerodd fawr o sylw o hynny.

Gorwedd yno yr oedd pan glywodd sŵn ergyd.

Er bod ei lais yn ysgafn a'i anadl braidd yn fyr, fe glywodd pawb bob un gair yn glir.