Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gneud

gneud

'Roedd popeth mor binco, a finna mor nerfus rhag gneud dim o'i le; y canlyniad i mi droi cwpanaid o de am ben y llian.

Yn y man, ebe hi: ``Dafydd Dafis, on'd ydi Rhys wedi gneud yn dda?

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

'Y peth gora i chi gneud rwan ydi mynd i Dinmael at y wraig a'r plant.

Brechdana' caws oedd gynnon ni'n tri, ac mi oedd Mrs Robaits wedi gneud rhai jam ac mi gawsom ni dipyn o'r rheini hefyd, a thamaid o'r deisan gymysg.

Cadernid ei gorff; breichia yn gneud imi deimlo'n ddiogel; 'i farf undydd yn crafu 'ngwynab i a'n 'sgwydda, a'r gwefusa 'na'n gwefreiddio 'nghlustia i a'n llygaid wrth i'w law gofleidio 'mhen-ôl i!

"Rydw inna' wedi gneud imi edrych arno fo drwy lygaid artist, a rydw i'n gweld yr hen le o'r newydd."

Ond fe ddywedodd nad oedd am iddi hi briodi eto - y bydde fe'n 'i rhwystro hi rhag gneud hynny.

Ond roedd Ifor yn bwriadu ei gneud nhw i gyd rhyw dd'wrnod.

A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.

'Fedri di ddim gneud dipyn o beintio dy hun neu gal y plant 'ma i neud rwbath at 'u cadw?'

Os wyt ti isio g-gneud rhwbath g-gwerth chweil, helpa fi i g-godi'r Albert druan 'ma'n ôl ar ei draed.'

Chwara teg iddo fo am ymlafnio efo chdi.' 'Mi 'dan ni 'di gneud deg pennod gynta Eseia, Mam.'

Mi ddaethon ni â llond basged fawr o benwaig yn ôl yma efo ni, achos mae hi'n noson gneud pennog picl heno, medda' Anti Nel, iddi gael mynd â nhw allan i'w gwerthu fory.

Mae honno'n sect ddiddorol ac mae'r glasiad y dydd yn gneud lles mawr iddyn nhw, medda eu gwyr.

Trodd y Priodor ato a gofyn: 'Fasa chi ddim yn gneud cymwynas â mi?'

"Ddim hanner cymin' o flode llonge yma nawr," meddai un, "a sdim profiad o waith sa'r llonge 'da ti, a ma' gneud mastia a rhwyfe a chwche yn waith gwahanol iawn i 'neud rhacane a phladurie a dryse a cherti." Digalon iawn.

Allwn i ddim gneud na thin na phen ohoni.

'Wel, wrth gwrs, rydan ni'n medru gneud popeth.

'Ond i be oeddach chi'n gneud hynny, Siôn Lias?' holodd hithau.

~ iolen stopiodd i herio'r hen gyfeillion a orweddai yno trwy weiddi 'Dowch allan rwan os ydach chi isio paffio efo fi fel roeddach chi'n gneud erstalwm!

Roedd Jac y Sar wedi hau stori ers blynydde i fod e wedi gneud coffin iddo fe'i hunan yr un pryd ag y gnath e goffin i'w wraig, a'i fod e'n i gadw fe dan y gwely, ond gan na fues i rioed yn stafell wely Jac, wn i ddim a oedd e'n gweud y gwir ai peidio.

Mae mam Aled wedi cadw tŷ ichi am ddeng mlynedd yn ddi-dal - wedi cwcio, golchi, glanhau..." "Mae hi'n gripl." "Hi sydd wedi gneud holl waith y tŷ er 'i bod hi'n gripl.

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

Wel, 'fasa nhw ddim yn gneud mwy o hylabalw 'daswn i wedi torri pen Huws y Siwrin hefo'r gyllall grampog.

A gwibio yn waeth wnân nhw fel maen nhw'n gneud ar ôl lledu pob croeslon.

Unrhyw un cofia; hen neu ifanc, dyn neu ddynes, ac mi fyddwn ni eisiau praw dy fod ti wedi gneud hynny.' Ciliodd Jaco yn ôl i'r cysgodion a daeth Mop i sefyll o'i flaen gan ysgwyd ei holl gorff yn synhwyrus.

Doedd deud hynna ddim yn gneud synnwyr i lawer, fel roedd hi'n sylweddoli, ond roedd o iddi hi, o leia.