Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gnwd

gnwd

Ni ddylid tyfu tomatos a chucumerau yn yr un tŷ gwydr gan fod gofynion amgylchfyd y ddau gnwd mor wahanol i'w gilydd.

Yma eto bu+m yn busnesu a sylwi fod y ffermwyr yn brysur yn cynaeafu ail gnwd o wair silwair.

Y mae rhai ohonom yn ddigon senoffobig i gredu mai dim ond pan oedd yna gnwd go lew o siaradwyr Cymraeg yn y tîm yr oedd Cymru yn chwarae orau - eich Gareth, Barry, Delme, Gerald ac yn y blaen.

Roedd hi newydd fod am dro yn y berllan gan sylwi gyda phleser fod y coed ffrwythau'n llawn blodau - argoel y byddai yna gnwd da yn yr hydref.

Rhedai ei llaw yn aml drwy gnwd o wallt coch a oedd bob amser ag angen ei gribo, ac edrychai arnom mewn distawrwydd cyn dechrau, y llygaid fel pinnau glas mewn papur gwyn.

Hynny yw; yr oedd yna gnwd allweddol o actorion amatur hynod o dda yng Nghymru gyda'r diweddar Guto Roberts, Elen Roger Jones a Charles Williams, maen debyg, ymhlith y mwyaf rhagorol ohonyn nhw.

Gwelwn fod y wawr yn dechrau torri a gwelwn ambell i fferm yn y pellter gyda chaeau o geirch melyn; hyn oedd eu prif gnwd, a hyn yn dod ag ambell i baced o Shredded Wheat a blas Scotch Quaker Oats yn ôl i'm cof.

Sylwodd fy nhad fod yr acer ffacbys yn cael ei phori i'r pridd ac nad oedd gobaith am gnwd yno.

Ychydig iawn o datw sydd wedi eu plannu fel tatw cynnar go iawn ac yr oedd y prif gnwd ymhell o gael eu plannu cyn dechrau mis Mai.

Ag yntau mewn coblyn o gyfyng-gyngor, daw Mona ato gyda'r bwcedaid o fadarch a brifiodd yn gnwd addawol a pherswadia'r llo a'r golwg 'Be wnai?' ar ei wep i fuddsoddi mewn rhagor o fwcedi a'u dodi i dyfu yn nhwllwch rhynllyd yr hen sinema wag.

Yn ystod Ionawr eleni daeth cnwd ar gnwd o eira gyda haen ar haen o rew.

Mae'r tomatos yn hoffi amgylchfyd sych a'r cucumerau yn hoffi lleithder felly, ni ddylid eu cymysgu yn yr un tŷ a disgwyl tyfu'r ddau gnwd yn llwyddiannus.

Dim ond rhyw naw modfedd pob ffordd roddaf rhyngddynt, yn rhy agos i'w priddo ond trwy'r dull hwn y caf y cyfanswm mwyaf o gnwd o'r maintioli sydd fwyaf derbyniol yn ein tū ni.

Ond parhau y mae'r tir i roddi ei gnwd.

Aiff pethau o chwith: dyma ddifetha'r holl gnwd am ei bod yn rhy boeth iddynt dan ddaear.

Edrychaf ymlaen at gnwd toreithiog.