Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

goddiweddyd

goddiweddyd

Dibynnant lawer am eu diogelwch ar gyfeiriad neu drawiad y gwynt ac ar eu gallu i arogli gelyn cyn iddo'u goddiweddyd, yn fwy felly nag ar eu llygaid, sydd wedi'u lleoli ymhell yn ôl ar ochr y pen.

Dichon y daw llawenydd annisgwyl i'n rhan; dichon y bydd tristwch du yn ein goddiweddyd.

Er bod y cwmwl 'ma sy' wedi goddiweddyd Teulu Nanhoron yn taflu 'i esgyll droston ni i gyd.' Am foment ciliodd y sirioldeb o wyneb yr offeiriad.

Yn ogystal â hyn, mae preifateiddio wedi goddiweddyd perthnasedd yr hen ddeddf drwy fod y sector preifat wedi tyfu a'r sector cyhoeddus wedi crebachu.

Plismon, mewn car neu ar fotobeic, yn goddiweddyd modurwr ac yna'n tynnu i mewn i ochr y ffordd o flaen ei drwyn, gan ei orfodi i stopio.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.