Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

godiad

godiad

Casgliad o gytiau'r gwhilion ar godiad tir yn ddu yn erbyn y machlud.

Dyma arafu a throi i'r chwith eto; ffordd wlad bellach, a thipyn o godiad ynddi hi, gwrychodd uchel, a wyneb y ffordd yn is na'r caeau o'i deutu.

Y glowyr yn rhoi'r gorau i'w streic a chael 35% o godiad cyflog.

Wrth i'r peiriannau o bob math fynd yn fwy ac yn fwy, aeth y caeau yn feysydd a diflannodd yr hen batrymau fyddai i'w gweld fel cwiltiau clytwaith wrth edrych arnynt o lethrau'r bryniau ac ambell godiad tir.

Byddent fel rheol yn rhoi tipyn o godiad yn y ffordd o'r main line i'r chwarel.

A'r droed a roddes ar y sebon a godwyd i fyny at godiad haul, a'r droed arall a gychwynnodd ar daith ohoni ei hun tuag at fachlud haul.

Mewn rhan arall o'r un chwarel roedd yna gymeriad arbennig yn canlyn ceffyl ac un diwrnod aeth i swyddfa'r chwarel i weld y prif oruchwyliwr i ofyn am godiad yn ei gyflog.

Roedd Wil yn anfodlon iawn ar y pris yr oedd yn ei gael am ei lafur ef a'i anifeiliaid, ac aeth i ben y prif oruchwyliwr, - a oedd yn Sais uniaith, - i ddadlau am godiad yn y pris.