Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gododd

gododd

Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Ugain mlynedd yn ôl fe gododd Abertawe i uchelfannau'r Adran Gyntaf.

Ar y bore Sul, fe gododd Aurona i roi ffowlyn yn y

Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.

Ond nid y Llyfrgell a gododd fy ngwrychyn am hyn.

Yn wynebu'r drws roedd yna wely haearn sengl, ac fel roedd o a'i dad yn edrych fe gododd y gwely i fyny i'r awyr bedair troedfedd oddi ar y llawr.

Yr hyn a gododd arswyd arnyn nhw oedd nhw eu hunain.

Nid yw'n fwriad penodol, felly, i drafod rhagoriaethau a ffaeleddau un sir ond yn hytrach i gyflwyno casgliadau cyffredinol a gododd o'r astudiaeth ac sydd yn berthnasol y tu hwnt i Wynedd, ac mewn rhai achosion, y tu hwnt i Gymru.

Y SECT FACH Rhyw ddwy genhedlaeth yn ol fe gododd yna ryw sect ymysg pobl Urmyc oedd eisio medru torri'r penrhyn bychan o wlad oddi wrth gwlad fawr y Noseas.

Ym mis Rhagfyr fe gododd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad gwestiwn diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Cyn gynted ag y cyffyrddodd Sandra'r blanced, fe gododd honno ohoni'i hun, a daeth rhyw sgrech fyddarol, annaearol o rywle.

Ond fe gododd Richard Owen Waun ar ei draed, ac fe ddywedodd, 'Canwch "Gwaed y Groes sy'n codi i fyny%.' Ac fe'i canwyd â rhyw arddeliad rhyfedd, a dyblu a threblu 'Gad i'm deimlo/ Awel o Galfaria fryn'.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Ymhen hir a hwyr fe gododd y capten ar ei draed: bu'n gweddio'n galed ac roedd ei lygaid yn goch.

Mae'r diddordeb hwn mewn addysg yn beth a gododd o'r Dadeni Dysg.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Wfftia (yn gwrtais iawn) Paul Bourget, 'un a gododd o'r werin, yn ceisio cyfyngu hawliau'r bobl, ac yn lladd ar y gyfundrefn addysg a'i manteision a fu'n achos mawr o'u llwyddiant eu hunain'.

Ond yn y bore pan gododd pawb, roedd y llong wedi diflannu.

Yna fe gododd y brawd yr oedd John Hughes wedi gofyn iddo gymryd rhan; fe ofalodd nad oedd dim bwlch i roi cyfleustra i fethiant ddyfod i mewn.

Fe gododd sawl peth diddorol o gynigion y Cyf Cyff gan gynnwys cyfarfod â phennaeth Radio Cymru.

Roeddwn ar fin anobeithio'n llwyr pan gododd y meindar yn flinedig a mwmian rhywbeth am yr amser prin a gâi yng nghwmni ei deulu.

O'r diwedd, wedi'r filfed smôc, fe gododd Jock ei ysgwyddau'n awgrymog, a rhoi pen ar y mater trwy ddweud yn ei Saesneg nodweddiadol,

Yn hyn o genhadaeth mae'r cylch yn grwn: y cof cyntaf sydd gennyf i o BLJ yw'r cof amdano yn Ystafell Gymraeg Coleg y Gogledd yn arwain cylch trafod llenyddiaeth a gododd ef ei hun; y mae yn ei rifyn olaf o Daliesin gerddi a stori%au byrion gan raddedigion newyddaf y Gymraeg.

Chicken!' oedd y llef a gododd o gornel bellaf yr ystafell.

Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.

Nid rhyw Ffenics adeiniog o obaith ac ymroddiad, ffydd a phenderfyniad a gododd o lwch y tan yn Llŷn, ond iargyw o bryder ac ofn a thaeogrwydd di-asgwrn cefn.

Efe a gododd, ac a aeth at ei dad.

Galwyd milwyr i setlo'r helynt a gododd ar achlysur praw arweinwyr y gweithwyr, a saethwyd pedwar o'r dorf a ymgynullasai - dau ddyn a dwy wraig.

Doeddan ni ddim wedi cael bwyd ers dyddia, a phan gododd yr haul a dechra toddi'r ceffyl, dyma fi'n tynnu bayonet a dechra torri'r cig oddi arno.

Yn achos Rhyfel y Gwlff, roedd gyda ni ddiddordeb arbennig yn safle'r Cwrdiaid oherwydd eu cyflwr cenedlaethol a diwylliannol ond fe gododd breuddwyd o sefyllfa hefyd, o safbwynt rhaglen Gymraeg.

Fe gododd rai ohonynt o glawdd hen furddun ar ei ffordd 'nôl o dŷ Nanti Anna y llynedd.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Ond yn sydyn mi gododd ac roedd yn amlwg y tro hwn ci lod yn edrych am rywbeth.